
Helpwch ni i osod blaenoriaethau ymchwil data cysylltiedig am y sector gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru
Helpwch ni i osod blaenoriaethau ar gyfer ymchwil data cysylltiedig ar gyfer y sector gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru: Cyfle i gymryd rhan mewn gweithdy ar-lein
Beth mae'n ei olygu
Rydym yn cynnal yr ymarfer gosod blaenoriaethau ymchwil hwn oherwydd rydym am gael dealltwriaeth eang o ba ymchwil sydd ei angen ym maes gofal cymdeithasol oedolion a pha ddata sydd ar gael i’w ddefnyddio yn yr ymchwil hwn. Gallwch ddarganfod mwy am y gwaith yma.
Wrth i’r sector wynebu galw cynyddol, cyfyngiadau ariannol a heriau gweithlu, gallai ymchwil data cysylltiedig helpu i ddarparu mewnwelediad sy’n cefnogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth.
Nod y gweithdy
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi casglu meysydd thema ymchwil gan amrywiaeth o randdeiliaid. Rydyn ni’n cynnal y gweithdy er mwyn i ni allu trafod y themâu ymchwil hyn a chytuno ar ‘10 uchaf’, nad ydyn nhw wedi cael sylw gan waith ymchwil presennol.
Manylion y gweithdy
Bydd y gweithdy yn cynnwys grwpiau trafod bach (tua phump o gyfranogwyr ynghyd â hwylusydd), bydd hyn yn cynnig amgylchedd diogel a chyfforddus i gyfranogwyr rannu eu gwybodaeth a'u profiadau.
Gofynnir i gyfranogwyr adolygu rhestr fer o themâu ymchwil am y sector gofal cymdeithasol oedolion. Mae’r cwestiynau hyn wedi’u darparu gan randdeiliaid gweithredol a strategol o bob rhan o Gymru, sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol i oedolion.
Gyda'i gilydd byddant yn penderfynu ar y themâu ymchwil pwysicaf.
Rydym eich angen chi
Rydym yn chwilio am tua 20 o bobl sydd naill ai â phrofiad gweithredol neu strategol o ofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru neu brofiad byw o’r sector.
Mae hwn yn gyfle i bobl nad ydynt eisoes yn dylanwadu ar yr agenda ymchwil i ddweud eu dweud.
Sylwer y gall eich presenoldeb gyfrif tuag at eich datblygiad proffesiynol parhaus (CPD).