Skip to Main content

Arwain dysgu a datblygu gan ddefnyddio tystiolaeth: Cwrs Catalydd DEEP

Mae 20 lle ar gael ar y cwrs. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin

Beth yw DEEP?

Mae DEEP yn ddull cyd-gynhyrchu o gasglu, archwilio a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar stori a deialog.

Arwain y defnydd o dystiolaeth mewn dysgu, datblygu a thrawsnewid.

Gall arwain rhaglenni dysgu, datblygu a thrawsnewid fod yn heriol ym myd gwasanaethau cyhoeddus fel gofal cymdeithasol. Gall ymagweddau traddodiadol at gynllunio sy'n tybio bod y byd yn rhesymegol ac yn rhagweladwy fod yn fyr o'u cymhwyso i sefydliadau dynol. Er bod galw cryf am arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, mae angen croesawu a pharchu ffactorau cyd-destunol.Mae DEEP yn ddull sy’n canolbwyntio ar bobl, yn berthynol ac yn ymatebol sy’n defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth. Mae'n ymateb i gyd-destun, yn ogystal ag anghenion sy'n dod i'r amlwg, ac yn ceisio dod â'r gorau allan mewn pobl. Mae dull DEEP yn cyflawni'r nodau hyn trwy gymhwyso ystod o egwyddorion a dulliau ymarferol.

Beth fydd y cwrs hwn yn cynnwys

Mae'r cwrs 30 awr hwn wedi'i wasgaru dros ddeg sesiwn tair awr. Mae'r cwrs yn rhoi dealltwriaeth fanwl i'r rhai sy'n mynychu o'r egwyddorion sy'n sail i ddull DEEP. Mae'n darparu sgiliau mewn dulliau ymarferol a ddefnyddir yn y dull DEEP i gasglu, rhannu a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu, datblygu a thrawsnewid.

Pwy fyddai'n elwa o'r cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer pobl a hoffai ddefnyddio a rhannu egwyddorion a dulliau DEEP gydag eraill sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Mae'n arbennig o berthnasol i bobl sydd â rolau arweiniol ym maes gofal cymdeithasol mewn dysgu, datblygu a thrawsnewid. Efallai y bydd pobl sy'n ymwneud â chasglu a defnyddio tystiolaeth hefyd yn gweld y cwrs yn ddefnyddiol.

Dyddiadau’r sesiynau:

Sesiwn 1 – 7 Hydref

Sesiwn 2- 15 Hydref

Sesiwn 3- 21 Hydref

Sesiwn 4- 5 Tachwedd

Sesiwn 5- 11 Tachwedd

Sesiwn 6- 18 Tachwedd

Sesiwn 7- 25 Tachwedd

Sesiwn 8- 3 Rhagfyr

Sesiwn 9- 9 Rhagfyr

Sesiwn 10- 19 Rhagfyr

Archebwch eich lle

Os hoffech wybod mwy am y sesiwn, cysylltwch â Nick Andrews ar: n.d.andrews@swansea.ac.uk