Skip to Main content

Adnodd sgiliau ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol

Adnodd sgiliau ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol 

Dydd Mercher 20 Awst 2025 

11am – 12pm (ar-lein trwy Teams) 

Dewch i'r sesiwn hon i ddarganfod am adnodd newydd sgiliau ymchwil, arloesi a gwella Gofal Cymdeithasol Cymru! 

Mae'r adnodd wedi'i greu i gefnogi datblygiad y sgiliau hyn ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol.  Mae'n cynnwys dolenni i gyfleoedd defnyddiol, fel hyfforddiant ac adnoddau. 

Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd i'ch cefnogi gyda defnyddio ymchwil a thystiolaeth, gwerthuso ffyrdd o weithio a chyflwyno dulliau newydd. 

Gall eich helpu: 

  • datblygu eich set sgiliau 
  • cyflwyno cyfleoedd datblygu sgiliau i'ch tîm 
  • creu diwylliannau sy'n herio ffyrdd presennol o weithio 

Bydd y gweithdy hwn yn mynd â chi drwy'r adnodd ac yn eich helpu i nodi ble y gallwch ei ddefnyddio yn eich practis 

Cofrestrwch i archebu eich lle