Skip to Main content

Sesiwn sbotolau data gofal cymdeithasol: Adnoddau AI newydd ar gyfer gofal cymdeithasol

Ymunwch â ni am y cyntaf yn ein cyfres newydd o sesiynau sbotolau data gofal cymdeithasol.

Bydd y sesiynau rheolaidd hyn yn rhoi cyfleoedd i glywed am gynnydd ar draws ein rhaglenni data strategol, rhannu dysgu, ac archwilio sut mae datblygiadau data mewn gofal cymdeithasol yn cefnogi canlyniadau gwell ledled Cymru.

Bydd ein sesiwn sbotolau gyntaf yn canolbwyntio ar adnoddau deallusrwydd artiffisial (AI) newydd ar gyfer gofal cymdeithasol. Flwyddyn ar ôl lansio ein canllaw AI, byddwn yn rhannu adnoddau AI newydd sydd wedi'u cynllunio i helpu pobl i adeiladu hyder mewn AI ac archwilio sut y gall gefnogi ymarfer.

Byddwn hefyd yn rhannu diweddariadau o bob rhan o'n rhaglenni data strategol ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth.

P'un a oes gennych ddiddordeb mewn sut y gallai AI gefnogi eich gwaith neu os hoffech glywed mwy am y cynnydd rydym yn ei wneud trwy ein rhaglenni data strategol, byddem wrth ein bodd yn eich gweld yn ymuno â ni.