Meithrin hyder a chysylltiadau pobl ag anghenion ychwanegol drwy Gylchoedd Cymorth
Dyddiad diweddaru diwethaf: 14 Gorffennaf 2026
Beth yw’r prosiect?
Mae Cylchoedd Cymorth yn brosiect gan Ategi sy’n dod â phobl ag anghenion ychwanegol ynghyd i feithrin cyfeillgarwch, dysgu sgiliau newydd a mwynhau profiadau ar y cyd, gan gynnwys teithiau.
Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae’r prosiect yn cynnal grwpiau croesawgar a chefnogol i bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion ychwanegol eraill, gan eu helpu i feithrin hyder a chysylltiadau.
Mae pob Cylch Cymorth yn cael ei arwain gan hwylusydd Ategi ac yn cynnwys gwirfoddolwyr – pobl ag anghenion ychwanegol sy’n helpu i redeg y grŵp a chefnogi ei gilydd.
Mae’r grwpiau cymorth cymheiriaid hyn yn adeiladu ar syniadau, cryfderau a phrofiadau pob unigolyn. Gall gwirfoddolwyr hefyd ddatblygu i rolau hwyluso ac arwain grwpiau yn y dyfodol.
Mae Cylchoedd Cymorth yn dod â phobl ynghyd i feithrin hyder, rhoi cynnig ar weithgareddau newydd a theimlo’n fwy cysylltiedig ag eraill. Gall hynny fod drwy deithiau, gweithdai creadigol neu dreulio amser gyda’i gilydd. Mae pob gweithgaredd yn cael ei lunio yn ôl diddordebau’r grŵp.
Ar hyn o bryd mae’r prosiect yn cynnal dau Gylch Cymorth:
Y Breuddwydwyr – Grŵp newydd cafodd ei lansio ym mis Hydref 2025, sy’n llawn syniadau ac yn canolbwyntio ar feithrin ymddiriedaeth a chyfeillgarwch.
Y Crwydriaid Hapus – Grŵp sy’n mwynhau antur, archwilio lleoedd newydd a threulio amser gyda’i gilydd.
Nod y prosiect yw lleihau unigrwydd a hybu annibyniaeth drwy ganolbwyntio ar yr hyn y gall pobl ei wneud yn hytrach nag ar eu cyfyngiadau. Mae Cylchoedd Cymorth yn helpu pobl i osod nodau personol, meithrin hyder a chymryd rhan mewn rhywbeth ystyrlon.
Yn fwy na dim, maen nhw’n helpu i feithrin cyfeillgarwch go iawn ac ymdeimlad cryf o gymuned.
Pam mae’r gwaith yn cael ei wneud?
Cafodd Cylchoedd Cymorth ei ddatblygu i fynd i’r afael â bwlch yn y cymorth sydd ar gael i bobl ag anghenion ychwanegol – gan gynnwys anableddau dysgu, awtistiaeth a mathau eraill o niwrowahaniaeth – sydd ddim yn gymwys i gael cymorth amser llawn neu gymorth statudol, ond sy’n dal i wynebu heriau sylweddol.
Mae llawer o’r bobl hyn mewn perygl o deimlo’n ynysig, bod â diffyg hyder a chael mynediad cyfyngedig at berthnasoedd ystyrlon neu gyfleoedd i ddatblygu’n bersonol. O ganlyniad, gallan nhw gael eu hanwybyddu gan wasanaethau traddodiadol.
Mae’r prosiect yn ymateb i hyn drwy greu grwpiau bach dan arweiniad cymheiriaid, pob un yn cael ei hwyluso gan arweinydd prosiect Ategi a’i gefnogi gan wirfoddolwyr ag anghenion ychwanegol. Mae’r grwpiau hyn yn canolbwyntio ar brofiadau wedi'u rhannu, datblygu sgiliau a chysylltiadau cymdeithasol, gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar gryfderau i helpu pobl i nodi nodau a symud tuag at fwy o annibyniaeth.
Drwy feithrin hyder, lleihau unigrwydd ac annog cymorth rhwng cymheiriaid, nod Cylchoedd Cymorth yw creu rhwydweithiau cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn helpu i leihau dibyniaeth ar wasanaethau ffurfiol.
Mae gwirfoddolwyr yn cael cymorth i ddatblygu i rolau arwain, gan helpu i sicrhau effaith hirdymor a pherchnogaeth gan gymheiriaid.
Mae’r prosiect yn gwella ansawdd bywyd y bobl sy’n cymryd rhan ac yn cynnig model gall cael ei ehangu i gefnogi mwy o bobl.
Ble a phryd mae’r gwaith yn digwydd?
Mae’r gwaith hwn yn parhau, yn cael ei gyflwyno mewn cymunedau ledled Caerdydd, ac mae disgwyl iddo ehangu yn ddiweddarach eleni.
Pwy sy'n rhan o'r gwaith?
Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Sefydliad Albert Gubay a’r Loteri Genedlaethol. Mae’r tîm wrthi ar hyn o bryd yn ceisio sicrhau rhagor o gyllid i gefnogi’r gwaith ehangu.
Dechreuodd y prosiect ym mis Rhagfyr 2023
Gwobrau 2025
Cyrhaeddod Cylchoedd Cymorth y rownd derfynol yng nghategori ‘Gweithio yn unol ag egwyddorion ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau’ yng Ngwobrau 2025.
Mae isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael yng ngosodiadau'r fideo isod.
Beth maen nhw wedi’i ddysgu o’r gwaith?
Mae'r prosiect Cylchoedd Cymorth wedi dangos yn glir sut y gall ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau drawsnewid bywydau. Drwy ganolbwyntio ar yr hyn y gall pobl ei wneud yn hytrach nag ar yr hyn sy’n anodd iddyn nhw, mae’r tîm wedi gweld cyfranogwyr yn magu hyder, meithrin cysylltiadau ystyrlon a chymryd mwy o reolaeth dros eu taith bersonol.
Un o’r canlyniadau mwyaf gwerthfawr i’r tîm yw gweld unigolion yn datblygu.
Mae cyfranogwyr a’u teuluoedd wedi rhannu llawer o brofiadau cadarnhaol am y grwpiau.
Roedd Emma, a oedd yn dawel iawn ac yn ansicr am gyfrannu i ddechrau, erbyn hyn yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn trafodaethau grŵp, ac fe barhaodd i fynychu sesiynau hyd yn oed ar ôl cael cwymp. Mae hyn yn dangos ei hymrwymiad a’i hyder cynyddol. Dywedodd ei mam: “Mae Emma bob amser yn siarad am yr hyn mae’r grŵp wedi bod yn ei wneud, ac rydw i’n falch iawn ohoni.”
Yn yr un modd, mae Stephen wedi gwneud cynnydd mawr wrth adnabod ei gryfderau ei hun, fel creadigrwydd a datrys problemau. Mae bellach yn defnyddio’r sgiliau hyn yn ei fywyd bob dydd ac wedi dod yn ffynhonnell cymorth i eraill. Dywedodd: “Mae bod yn rhan o’r grŵp hwn wedi gwneud i mi deimlo’n llai unig; rydyn ni i gyd yn hyn gyda’n gilydd.”
Mae llawer o gyfranogwyr yn disgrifio’r cylchoedd fel lle diogel lle maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu derbyn, eu cefnogi a’u hannog. Dywedodd Lee: “Rydw i wedi dod o hyd i bobl sydd â phrofiadau tebyg. Mae’n teimlo fel ein bod ni’n cerdded y daith hon gyda’n gilydd.”
Beth mae’r tîm wedi’i ddysgu?
Mae’r tîm wedi dysgu bod pobl yn teimlo mwy o rym dros eu bywydau pan maen nhw'n cael eu cefnogi i lunio eu llwybr eu hunain. Mae cysylltiadau rhwng cymheiriaid a theimlad o ddiogelwch emosiynol wedi profi’n hanfodol i feithrin gwytnwch a chynnal cyfranogiad hirdymor.
Heriau a sut ymatebon nhw
Daeth y tîm ar draws heriau hefyd. Roedd rhai cyfranogwyr yn ansicr am y model i ddechrau, felly cyflwynodd y tîm ddull graddol o ymuno â’r grŵp, gan ganiatáu i bobl ymgartrefu ar gyflymder oedd yn gyfforddus iddyn nhw.
Sylweddolodd y tîm hefyd fod angen hyfforddiant cryfach ar hwyluswyr i gymhwyso dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau yn gyson. Mewn ymateb, cafodd rhaglen ddatblygu fwy cynhwysfawr ei gyflwyno i staff, gan gynnwys ymarfer myfyriol a dysgu rhwng cymheiriaid.
Roedd cynnal ymgysylltiad dros amser hefyd yn gofyn am addasu’n barhaus. Bellach mae’r tîm yn cynnig sesiynau gwirio rheolaidd a chymorth wedi’i deilwra i sicrhau bod pob cylch yn parhau i ymateb i anghenion sy’n newid.
I’r tîm, mae’r prosiect hwn wedi atgyfnerthu pwysigrwydd credu ym mhotensial pobl. Drwy gydweithio, ymddiriedaeth a dysgu parhaus, maen nhw wedi datblygu model sy’n cefnogi unigolion ac yn cryfhau cymunedau, gan helpu i greu newid cadarnhaol sy’n para.
Cysylltwch
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn, cysylltwch â Matthew Jones o Ategi ar info@ategi.co.uk, neu ewch i wefan Ategi.
Darganfod mwy
Contact name:
Matthew Jones