Diweddariad ar ein dull o ymdrin â data gofal cymdeithasol
Mae’r diweddariad ar ein hymagwedd strategol yn rhoi mwy o fanylion am rywfaint o’n gwaith dros y 12 mis yn dilyn cyhoeddiad y Datganiad o Fwriad Strategol.
Mae hyn yn cynnwys gwaith ar y Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol, datblygiad proffesiynol ar gyfer dadansoddwyr data sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, yr Adnodd Data Cenedlaethol (ADC) ac ymchwil data cysylltiedig â'r Labordy Data Rhwydwaith.
Darllenwch y diweddariad ar ein dull o ymdrin â data gofal cymdeithasol
Sut y gwnaethom ni ddatblygu ein hymagwedd
Mae ein hadroddiad ar y cam darganfod yn disgrifio data gofal cymdeithasol yng Nghymru a'r meysydd sydd angen eu gwella.
Mae ein datganiad o fwriad strategol yn dwyn ynghyd sefydliadau sydd am wella’r ffordd y caiff data ei gasglu a’i ddefnyddio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n disgrifio ein nodau ar gyfer data gofal cymdeithasol ac yn nodi wyth maes blaenoriaeth o waith. Rydyn ni wedi dechrau gweithio ym mhob maes ac wedi gwneud cynnydd yn erbyn ein hamcanion.
Yr hyn rydyn ni wedi’i wneud ers dechrau’r prosiect
Rydyn ni wedi:
- datblygu sut rydyn ni’n siarad â phobl yng Nghymru am y defnydd o ddata iechyd a gofal, ynghyd â’n partneriaid, Llywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- cytuno ar sut y byddem yn gweithio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar gyfer y rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol a gofal cymdeithasol yng Nghymru
- rydyn ni wedi helpu awdurdodau lleol i rannu eu data gyda SAIL a’r Networked Data Lab ac wedi edrych ar sut y gallai porth rhannu gwybodaeth helpu i weinyddu rhannu data
- gwella'r ffordd rydyn ni’n casglu data am y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru
- creu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol sydd am rannu data
- ailgynllunio ein Porth data gofal cymdeithasol cenedlaethol Cymru a gwella’r data a gynhelir ynddo, sut mae'n gweithio a sut y caiff ei ddefnyddio
- cyhoeddi’r adroddiad, Cwmpasu fframwaith datblygiad proffesiynol ar gyfer dadansoddwyr data gofal cymdeithasol yng Nghymru, sy’n edrych ar y gweithlu data mewn gwasanaethau awdurdodau lleol, a dechrau cyfres o brosiectau sgiliau data
- gweithio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ddarparu eu rhaglen ddysgu dadansoddeg lefel sylfaen gyda KPMG.
Beth fyddwn ni'n ei wneud nesaf
Erbyn Ebrill 2023 rydyn ni’n gobeithio:
- gweithio gyda sefydliad profiadol i'n helpu i siarad â phobl ledled Cymru am ddata iechyd a gofal
- parhau â'n gwaith gydag ADSS Cymru i osod ein blaenoriaethau data ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru
- gweithio gydag awdurdodau lleol i ddeall a ydynt yn barod ar gyfer y rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol
- parhau â’n gwaith gyda’r Networked Data Lab a chryfhau ein dull o gysylltu data gweinyddol, drwy weithio gyda SAIL ac Uned Ymchwil Data Gweinyddol Llywodraeth Cymru
- parhau i ddatblygu'r Porth data gofal cymdeithasol cenedlaethol Cymru, ynghyd â'n defnyddwyr
- gweithio gydag awdurdodau lleol i ddiffinio safonau data ar gyfer data gofal cymdeithasol
- cyflwyno dau brosiect ‘alffa’ ar gyfer sgiliau dadansoddi data
- cyhoeddi diweddariadau rheolaidd am waith y strategaeth ddata.