Ymagwedd strategol ar ddata gofal cymdeithasol yng Nghymru
Mae’r Datganiad o Fwriad Strategol yn nodi uchelgeisiau Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer data mewn gofal cymdeithasol.
Mae’n amlinellu ein gweledigaeth a’n hymrwymiad ar gyfer sut y dylid defnyddio data i gefnogi ein gwaith ac i wella gofal cymdeithasol yng Nghymru. Crëwyd y datganiad gyda chymorth sefydliadau gofal cymdeithasol, ymchwilwyr a darparwyr. Mae hefyd yn llwyfan i sefydliadau ymuno â ni i ddatblygu ymagwedd strategol at ofal cymdeithasol yng Nghymru.
Cliciwch yma i weld dogfen PDF o'r Datganiad o Fwriad Strategol.
Yn dilyn cyhoeddi'r Datganiad o Fwriad Strategol, rydym wedi cyhoeddi diweddariad ar ein dull strategol. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi mwy o fanylion am rywfaint o'n gwaith dros y 12 mis ers iddo gael ei gyhoeddi.
Cliciwch yma i weld diweddariad ar ein dull o ymdrin â data gofal cymdeithasol.