Clywed gan ddinasyddion: Cyflwyniad i ddylunio a chynnal arolygon
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?
Mae’r cwrs hyfforddiant hwn wedi’i anelu at gydweithwyr llywodraeth leol. Sylwch: mae uchafswm o ddau gynrychiolydd y cyngor.
Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac mae wedi ei anelu at ddechreuwyr. Ni oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddata neu ystadegau.
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Mae cynnal arolygon yn ffordd wych o glywed gan lawer o bobl yn gyflym ac yn gost-effeithiol. Mae llawer math o arolwg. Bydd pa un rydych chi’n ei ddewis yn dibynnu ar eich diben, yr amserlen ar gyfer casglu’r canlyniadau, a’r adnoddau sydd ar gael.
Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu:
- dylunio arolygon
- y technegau samplo mwyaf cyffredin
- sut i lunio cwestiynau arolwg
- sut i beilota a chynnal arolwg
- sut i ddadansoddi a chyflwyno’r canlyniadau.
Tagiau sgiliau:
- data
- arolygon