Skip to Main content

Porth data gofal cymdeithasol cenedlaethol Cymru

Rydyn ni yma i'ch helpu chi i ddod o hyd i’r data sydd ei angen i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth yn eich gwaith.

Gallwch chi archwilio data am ofal cymdeithasol a phynciau cysylltiedig ar Borth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru.

Beth yw'r porth data?

Wedi'i ddatblygu gan Gofal Cymdeithasol Cymru, mae'n siop un stop ar gyfer data am ofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Y nod yw dwyn ynghyd ystod o ddata am y rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a'r rhai sydd angen gofal cymdeithasol, yn ogystal â ffactorau eraill a allai effeithio ar y galw am ofal cymdeithasol. 

Er enghraifft, mae'r porth yn cynnwys data am  bobl sydd wedi cofrestru fel gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, nifer y plant sy'n derbyn gofal, faint o arian y mae cynghorau'n ei wario ar wasanaethau, a nifer y bobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia.  

Pwy yw e ar gyfer?

Mae’r porth ar gyfer unrhyw un sydd eisiau archwilio data am ofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Gall hyn gynnwys dadansoddwyr lleol sydd eisiau dod o hyd i ddata am eu hardal yn gyflym a’i rannu ag eraill, neu arweinwyr gwasanaeth a chomisiynwyr sydd eisiau cael mynediad at ystod eang o ffynonellau data mewn un lle. 

Bydd yn ddefnyddiol i bobl sydd eisiau deall sut mae eu hardal leol yn cymharu ag eraill, neu’r rhai sy’n chwilio am wybodaeth benodol am y gweithlu neu blant sy’n derbyn gofal. 

Mae hefyd ar gyfer y rhai sydd eisiau archwilio’r data’n weledol, drwy nodweddion fel graffiau llinell neu fapiau. 

Pa ddata sydd yn y porth?

Mae’r data yn dod o amrywiaeth o ffynonellau. Mae llawer ohono’n dod gan Lywodraeth Cymru drwy Stats Cymru

Mae data arall yn dod gan Gofal Cymdeithasol Cymru ei hun, yn ogystal â sefydliadau fel Arolygiaeth Gofal Cymru (gwybodaeth am wasanaethau cofrestredig a’r lleoedd maen nhw’n eu cynnig), y Swyddfa Ystadegau Gwladol (gwybodaeth am fywydau pobl yng Nghymru), a Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Yn ogystal â’r data gan y darparwyr hyn, mae’r porth hefyd yn cynnwys data wedi’i drawsnewid i’ch helpu i gael mwy o fewnwelediadau i’r ffigurau. Gall data wedi’i drawsnewid olygu dangos dadansoddiadau fel canrannau neu roi cyfraddau i chi gymharu. 

Er enghraifft, efallai y byddwch eisiau gwybod faint o asesiadau o oedolion sydd efallai angen gofal sy’n arwain at gynlluniau gofal a chymorth, a faint mae hynny’n amrywio rhwng awdurdodau lleol gwahanol. Efallai y byddwch eisiau gwybod nifer y lleoedd mewn cartrefi gofal fesul 10,000 o bobl sy’n byw mewn ardal. Neu faint mae cynghorau’n gwario ar wasanaethau fesul pen o’r boblogaeth. 

Beth allwch chi ei wneud ar y porth?

Gallwch ryngweithio â’r data mewn gwahanol ffyrdd, fel gweld y data fel tabl neu archwilio delweddaethau. Rydym hefyd yn cyhoeddi crynodebau data sy’n rhoi mewnwelediadau am y pynciau data sydd yn y porth, yn ogystal â rhagamcanion data ar gyfer cynllunio. 

Gallwch hefyd: 

  • chwilio am ddata neu bori yn ôl categori
  • hidlo data yn ôl awdurdod lleol neu fwrdd iechyd
  • gweld y data ar gyfer gwahanol ystodau dyddiad
  • rhannu data ag eraill
  • lawrlwytho’r data fel taenlen.

Crynodebau data

Mae ein crynodebau data yn eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus yn seiliedig ar ddata go iawn. 

Mae’r crynodebau hyn yn dod â data at ei gilydd o ystod o ffynonellau ar bwnc penodol. 

Mae ein crynodebau data yn cynnwys: 

Dywedwch eich barn

Oes gennych chi unrhyw syniadau, adborth neu gwestiynau am y porth data? Neu hoffech chi awgrymu pynciau y gellid eu cynnwys yn y crynodebau data? 
E-bostiwch data@gofalcymdeithasol.cymru

Prif gysylltiadau

Owen Davies

Owen Davies

Rheolwr Data a Gwybodaeth

data@gofalcymdeithasol.cymru
Rwy’n arwain ar ddatblygu a gweithredu’r dull strategol o ymdrin â data gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu helpu pobl a sefydliadau sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru i fod yn well am gasglu, defnyddio a rhannu eu data. Rwyf hefyd yn rheoli tîm o weithwyr data proffesiynol yng Ngofal Cymdeithasol Cymru i gyflawni ein strategaeth ac i reoli data Gofal Cymdeithasol Cymru ei hun. Rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o fy ngyrfa yn gweithio mewn rolau data a digidol mewn gofal cymdeithasol. Gweithiais i awdurdod lleol am dros 20 mlynedd, gan ddod yn Rheolwr Perfformiad a Gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau plant. Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, bûm yn gweithio fel uwch arweinydd polisi yn Llywodraeth Cymru, gan weithio yn y tîm a ddatblygodd y Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rwy'n angerddol am ddefnyddioldeb a hygyrchedd data a digidol ac rwy'n gwneud gradd ymchwil mewn Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron ym Mhrifysgol Abertawe.
Claire Miller

Claire Miller

Arweinydd y Porth Data Cenedlaethol

data@gofalcymdeithasol.cymru
Rwy’n gyfrifol am gynnal a datblygu’r Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol. Fy ngwaith i yw casglu data o wahanol ffynonellau fel Llywodraeth Cymru neu Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y porth a defnyddio’r data hwnnw i greu cynnwys ystyrlon a defnyddiol. Gweithiais fel newyddiadurwr data ar draws papurau newydd cenedlaethol a rhanbarthol yn y DU cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru ym mis Tachwedd 2022. Ar ôl dechrau fel gohebydd ar bapur wythnosol lleol yng Nghaint, ymunais â WalesOnline yn 2010. Tra’n gweithio yn WalesOnline lansiais y Datastore – storfa ar gyfer y data a’r graffeg yn ymwneud â straeon a gyhoeddir mewn papurau newydd Cymreig. Yn ddiweddarach, gweithiais fel olygydd Uned Data Reach ar ôl bod yn allweddol wrth ei sefydlu a'i datblygu. Mae’r uned yn cynhyrchu prosiectau newyddiaduraeth data manwl a chynnwys rhyngweithiol sy’n cael eu cyhoeddi ar draws teitlau cenedlaethol a rhanbarthol Reach.