Mae’r porwr prosiectau ar gyfer pobl sy’n arwain, datblygu a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol sydd eisiau gwybod mwy am waith sy’n digwydd ledled Cymru.
Rydyn ni wedi creu'r porwr prosiectau i helpu i ledaenu syniadau a dysgu o ymarfer trwy rannu gwybodaeth am y gwaith, ble mae'n digwydd, pwy sy'n cymryd rhan a sut i ddarganfod mwy.
Ei nod yw helpu pobl i gysylltu a dysgu oddi wrth ei gilydd. Rydyn ni wedi annog pobl i rannu’r gwersi pwysig maen nhw wedi’u dysgu ar y ffordd, a allai fod yn ysbrydoliaeth ac yn ddysgu defnyddiol iawn i eraill.
Rydyn ni wedi cynnwys casgliad o enghreifftiau o arfer arloesol a mentrau ymchwil sy’n berthnasol i ofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni hefyd wedi nodi prosiectau ymchwil academaidd sydd wedi cael cefnogaeth ffurfiol drwy'r Fframwaith Cymorth ac Ymgysylltu Ymchwil.
Defnyddiwch y porwr prosiectau i chwilio am wybodaeth am enghreifftiau o arfer arloesol a mentrau ymchwil gofal cymdeithasol, ac i gysylltu â'r person arweiniol yn uniongyrchol i ddarganfod mwy am eu prosiect, gweithio gyda'ch gilydd neu gefnogi eich gilydd
Gallwch hefyd rannu eich gwaith ar y porwr prosiectau trwy gysylltu â ni.