Skip to Main content

Cwrdd â'r tîm

Gall tîm y Grŵp Gwybodaeth eich helpu i ddod o hyd i waith ymchwil defnyddiol, hyfforddiant a chefnogaeth cyfoedion. Mae ein tîm o weithwyr cymdeithasol, ymchwilwyr, dadansoddwyr data ac arbenigwyr arloesedd ar gael i roi arweiniad a chymorth am ddim i chi.

Gallwch ganfod mwy am ein tîm isod. Anfonwch ymholiadau cyffredinol i’r grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru a byddwn ni’n ymateb mor gynted â phosib.

Rhowch eich barn

Hoffen ni glywed eich barn am ein gwefan newydd.

Cwblhewch ein ffurflen ar-lein neu e-bostiwch grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru os hoffech chi roi unrhyw adborth i ni.

Emma Taylor-Collins

Emma Taylor-Collins

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Data ac Arloesi

Rwy'n arwain ein tîm Ymchwil, Data ac Arloesi. 

Rydyn ni'n cefnogi pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddefnyddio ymchwil a data i lywio’r gwaith o gynllunio ac ymarfer polisïau a gwasanaethau, yn ogystal â chefnogi pobl i arloesi yn eu gwaith.

Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru ym mis Hydref 2022, roeddwn yn gweithio yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Caerdydd, yn arwain prosiectau cyfiawnder cymdeithasol ar gyfer Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus.

Mae fy nghefndir mewn ymchwil trydydd sector. Mae gen i PhD mewn polisi cymdeithasol o Ganolfan Ymchwil Trydydd Sector Prifysgol Birmingham ar ryngblethedd a gwirfoddoli i ferched dosbarth gweithiol.

Angharad Dalton

Angharad Dalton

Rheolwr Anogaeth Arloesedd

Rwy’n gofalu am ein gwasanaeth anogaeth arloesedd a thîm anogaeth newydd.

Rydyn ni'n cefnogi pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol sy'n ceisio gwella'r ffordd y maen nhw'n darparu gofal trwy eu helpu i brofi syniadau newydd, datblygu ffyrdd newydd o weithio neu addasu'r hyn sy'n gweithio mewn mannau eraill.

Mae fy nghefndir yn amrywiol, ond mae'r llinyn aur sy'n rhedeg trwy fy ngyrfa yn canolbwyntio ar wneud bywyd yn well i bobl.

Rwy’n is-gadeirydd Cwmpas, a chyn hynny gweithiais fel rheolwr rhaglen i Nesta yn cefnogi arloesedd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Rwyf hefyd wedi datblygu polisi iechyd ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig, a gwaith allgymorth ledled Cymru ar gynhwysiant digidol sy’n canolbwyntio ar stori.

Roeddwn yn rhan o’r tîm sefydlu y tu ôl i Ysgol Fasnach Caerdydd, ac yn rhan o Think ARK – cydweithfa dylunio cymdeithasol.

Owen Davies

Owen Davies

Rheolwr Data a Gwybodaeth

Rwy’n arwain ar ddatblygu a gweithredu’r dull strategol o ymdrin â data gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu helpu pobl a sefydliadau sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru i fod yn well am gasglu, defnyddio a rhannu eu data.

Rwyf hefyd yn rheoli tîm o weithwyr data proffesiynol yng Ngofal Cymdeithasol Cymru i gyflawni ein strategaeth ac i reoli data Gofal Cymdeithasol Cymru ei hun.

Rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o fy ngyrfa yn gweithio mewn rolau data a digidol mewn gofal cymdeithasol. Gweithiais i awdurdod lleol am dros 20 mlynedd, gan ddod yn Rheolwr Perfformiad a Gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau plant.

Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, bûm yn gweithio fel uwch arweinydd polisi yn Llywodraeth Cymru, gan weithio yn y tîm a ddatblygodd y Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rwy'n angerddol am ddefnyddioldeb a hygyrchedd data a digidol ac rwy'n gwneud gradd ymchwil mewn Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifaduron ym Mhrifysgol Abertawe.

Stephanie Griffith 

Stephanie Griffith 

Rheolwr Arloesi

Rwy'n gweithio mewn maes gwaith newydd cyffrous i ddatblygu ein cefnogaeth i arloesi mewn gofal cymdeithasol.

Mae’r meysydd rwy’n eu rheoli yn canolbwyntio ar adeiladu partneriaethau cydweithredol, cymunedau ar gyfer ymarferwyr ac archwilio arloesi digidol.

Mae fy ngwaith blaenorol yn cynnwys gwaith cymdeithasol awdurdodau lleol a gweithio yn y trydydd sector i gefnogi iechyd meddwl menywod ac arwain tîm o weithwyr cymorth iechyd meddwl.

Es ymlaen i weithio ym maes datblygu gwasanaethau i awdurdod lleol ar ystod eang o weithgareddau. Roedd y rhain yn cynnwys taliadau uniongyrchol, gofal ychwanegol ac adolygiad o wasanaethau iechyd meddwl yn yr ardal.

Rydw i wedi bod gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ers y cychwyn, yn 2017. Cyn hynny roeddwn i’n gweithio i’r Cyngor Gofal, gan ganolbwyntio’n bennaf ar gymwysterau a safonau.

Rwy’n weithiwr cymdeithasol cymwysedig, ar ôl cwblhau MA ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2000.

Rwyf hefyd yn astudio ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Abertawe drwy Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan. Mae'r PhD yn canolbwyntio ar arloesi mewn gofal cymdeithasol.

Eleanor Johnson

Eleanor Johnson

Rheolwr Ymchwil

Rwy'n rheoli ein tîm ymchwil.

Rydyn ni'n annog ac yn hyrwyddo ymchwil o ansawdd da ar ofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn berthnasol i Gymru drwy osod blaenoriaethau ymchwil a chefnogi ymchwilwyr.

Rydyn ni'n casglu ynghyd canfyddiadau ymchwil i ddarparu mewnwelediadau i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol drwy grynodebau tystiolaeth Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru roeddwn yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bryste. Mae fy ngwaith ymchwil yn cynnwys: gwaith gofal â thal, tai a gofal a gwirfoddolwyr gofal cymdeithasol. Roeddwn i hefyd yn dysgu dulliau ymchwil i fyfyrwyr gradd feistr. Yn ddiweddarach, fe wnes i ymchwil wedi ei ariannu gan yr NIHR, Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol ar sut wnaeth y pandemig effeithio ar ddarpariaeth mewn cartrefi gofal preifat a chartrefi gofal preswyl i bobl hŷn. Mae fy ngwaith ymchwil PhD, Prifysgol Caerdydd (2018), yn cymharu profiadau gweithwyr gofal a darpariaeth gofal mewn cartrefi preswyl cost uchel a chost isel i bobl hŷn. Bues i'n gweithio fel gweithiwr gofal mewn cartrefi preswyl i bobl hŷn cyn, ac yn ystod, fy noethuriaeth.

Rachel Scourfield

Rachel Scourfield

Rheolwr Symudedd Gwybodaeth

Rwy'n cefnogi ein tîm symudedd gwybodaeth. Rydym yn cefnogi ymarferwyr, timau a sefydliadau i gyrchu ac ystyried ymchwil a thystiolaeth i gefnogi eu penderfyniadau, eu datblygiad a’u gwaith.

Rydym yn dod â phobl ynghyd trwy ein cymunedau a gwaith partner i helpu i ddefnyddio, cymhwyso a chynhyrchu ymchwil a thystiolaeth yn ymarferol. Mae ein cymunedau yn fannau i bobl rannu eu gwybodaeth a’u syniadau ac i ddysgu gan eraill, gan greu perthnasoedd ar draws gwahanol sectorau a ledled Cymru.

Rwyf wastad wedi ceisio defnyddio tystiolaeth i gefnogi penderfyniadau ac ymarfer. Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, roeddwn yn weithiwr cymdeithasol am 23 mlynedd ac yn arbenigo mewn defnyddio sylweddau. Gweithiais mewn tîm triniaeth aml-asiantaeth i oedolion, ac fel gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol yn y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd. Roedd y rôl hon yn cefnogi dull teuluol dwys o fynd i'r afael â defnydd rhieni o sylweddau. Mae gennyf hefyd brofiad o sicrhau cyllid NIHR (Institute for Health and Care Research) yn llwyddiannus gyda chydweithiwr i weithio tuag at wreiddio ymchwil i wasanaethau oedolion o fewn awdurdod lleol.