Skip to Main content

Rhannu a dysgu

Mae dysgu - a rhannu ein dysgu - yn bwysig i ni yn y Grŵp Gwybodaeth, felly rydyn ni wedi datblygu pecyn o wasanaethau i'ch helpu i gysylltu â chyfoedion ac arbenigwyr a dysgu ganddyn nhw.

Mae'r porwr prosiectau yn rhannu gwybodaeth am enghreifftiau o arfer arloesol a mentrau ymchwil, ble maen nhw'n digwydd, pwy sy'n cymryd rhan, a sut i ddarganfod mwy. Ei nod yw helpu pobl i gysylltu a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Ar ein tudalennau digwyddiadau, gallwch chi ddod o hyd i amrywiaeth o ddigwyddiadau yng Nghymru sy'n ymwneud â gwella a datblygu gofal cymdeithasol.

Mae ein llyfrgell hyfforddiant yn dwyn ynghyd amrywiaeth o gyrsiau, seminarau a chynnwys gwahanol – o fideos byr i gyfleoedd dysgu ffurfiol gyda chymhwyster cydnabyddedig. Rydyn ni’n cynnwys cyrsiau wyneb yn wyneb ac ar-lein - bydd rhai am ddim ac eraill yn costio.

Mae'r llyfrgell yn rhestru cyfleoedd i wella sgiliau data a dadansoddi, gan helpu pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i gasglu'r dystiolaeth orau i gefnogi eu gwaith.

Gallwch ddarganfod mwy am y meini prawf y bu'n rhaid i'r hyfforddiant eu bodloni ar ein tudalen am y llyfrgell hyfforddiant.