Amdanom ni
Y Grŵp Gwybodaeth
Mae’r Grŵp Gwybodaeth yn wasanaeth a grëwyd gan Ofal Cymdeithasol Cymru. Mae ar gael i unrhyw un sy’n gweithio neu sydd â diddordeb mewn gofal cymdeithasol gydag uchelgais syml: cydweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal cymdeithasol.
Mae’r Grŵp Gwybodaeth yn wasanaeth am ddim sy’n rhoi’r canlynol i chi:
- mynediad at grynodebau tystiolaeth sy’n esbonio canfyddiadau ymchwil
- mynediad at ddata gofal cymdeithasol
- mynediad at ymchwil academaidd a chyfnodolion
- rhestr o brosiectau ymchwil ac arloesi parhaus a rhai sydd wedi'u cwblhau, gyda manylion am sut i gysylltu
- trosolwg o’r hyfforddiant sydd ar gael i chi
- canllaw ar ddigwyddiadau, cynadleddau a chyfleoedd rhwydweithio i ddod
- gwybodaeth am y cymunedau y gallwch ymuno â nhw i gysylltu â chyfoedion, ymchwilwyr ac eraill
- cyngor un i un gan arbenigwyr i’ch helpu i ddod o hyd i ymchwil ddefnyddiol, hyfforddiant a chefnogaeth gan gyfoedion
- ein gwaith strategaeth
Rydyn ni wedi sefydlu’r Grŵp Gwybodaeth oherwydd eich bod wedi dweud wrtho ni:
- ei bod yn anodd dod o hyd i ymchwil berthnasol
- eich bod eisiau cael mynediad at syniadau newydd sy’n cael eu profi yn y sector
- eich bod eisiau dod o hyd i hyfforddiant a argymhellwyd gan eich cyfoedion
- eich bod eisiau llwyfan i rannu syniadau gyda phobl eraill sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol.
Gwybodaeth, cymorth ac adnoddau pellach gan Ofal Cymdeithasol Cymru
gofalcymdeithasol.cymru: Dysgwch fwy amdanom ni, gan gynnwys gwybodaeth am gofrestru, hyfforddiant, cymwysterau, cyllid a sut i godi pryder am weithiwr.
www.scwonline.wales: Gwnewch gais i gofrestru a chwilio drwy’r Gofrestr.
www.socialcaredata.wales: Cael mynediad at ystod o ddata gofal cymdeithasol o ffynonellau gan gynnwys y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
www.communities.socialcare.wales: Rhannu a thrafod syniadau sy’n berthnasol i’ch maes ymarfer chi gyda’ch cyfoedion.
www.gofalwn.cymru: Gwybodaeth am y cyfleoedd swyddi diweddaraf, yn ogystal â gwybodaeth am ofalwyr gofal cymdeithasol a hyfforddiant sydd ar gael.