Ein cynnig cymorth i ymchwilwyr
Rydyn ni eisiau cefnogi ymchwilwyr academaidd i gynhyrchu ymchwil o ansawdd uchel, gweithio gyda phobl sy'n defnyddio ac yn darparu gofal a chymorth, a gwneud canfyddiadau ymchwil yn hygyrch ac yn berthnasol i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Mae ymchwilwyr yn aml yn gofyn i ni eu cefnogi gyda'u ceisiadau am gyllid ymchwil ac am help gyda dylunio a gweithredu eu hymchwil.
O ganlyniad, rydyn ni wedi datblygu ein cynnig cymorth i ymchwilwyr. Ar y dudalen hon, dewch o hyd i fwy o wybodaeth ar y gwahanol ffyrdd y gallwn ni gefnogi ymchwilwyr academaidd.
Cael cefnogaeth i'ch cais am gyllid ymchwil
Gallwn ddarparu cefnogaeth i'ch ceisiadau am gyllid ymchwil. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen ar gyfer cyllid ymchwil.
Cysylltu ag ymarferwyr am eich ymchwil
Mae'r Gymuned Dystiolaeth yn dwyn ynghyd ymarferwyr, ymchwilwyr, pobl â phrofiad byw a'r rhai sydd ag angerdd a diddordeb cyffredin mewn ymchwil a thystiolaeth gofal cymdeithasol.
Mae'r Gymuned Dystiolaeth a'r arweinwyr partneriaid o fewn y tîm Ymchwil, Data ac Arloesi yn gallu eich helpu i gysylltu ag ymarferwyr, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn cefnogi ymchwil gofal cymdeithasol.
Fel ymchwilydd yn y Gymuned Dystiolaeth, gallwch:
- ymuno â'n platfform ar-lein i drafod a rhannu ymchwil gyfoes ag eraill sy'n angerddol am ymchwil gofal cymdeithasol
- cysylltu ag aelodau eraill o'r gymuned i gyd-gynhyrchu cynigion ymchwil
- cysylltu a thrafod gydag ymarferwyr a llunwyr polisi ynghylch pynciau neu themâu penodol a helpu i roi canfyddiadau ymchwil ar waith yn ymarferol
- mynychu a chyflwyno gweithdai a digwyddiadau, fel cymunedau ymholi a'n sesiynau 'myfyrio ar dystiolaeth'.
Derbyn cefnogaeth i gynllunio eich astudiaeth
Fel rhan o'n Cymuned Dystiolaeth mae'r gweithdai trafod ymchwil yn rhoi cyfle i ymchwilwyr i rannu eu hymchwil neu syniadau am ymchwil gydag ymarferwyr. Mae ganddyn nhw fformat agored i ymchwilwyr lunio eu gweithdy eu hunain gydag aelodau'r Gymuned Dystiolaeth.
Mae'r digwyddiadau hyn hefyd yn creu cyfleoedd i ymchwilwyr ddefnyddio'r Gymuned Dystiolaeth fel seinfwrdd. Gall hyn helpu i gysylltu ymchwilwyr ag ystod o ymarferwyr a chael adborth ar agweddau ar ddylunio ymchwil neu gynigion sy'n gysylltiedig ag ymarfer gofal cymdeithasol.
Mewn partneriaeth gyda'n cydweithwyr yn Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) gallwn hefyd archwilio dyluniad eich astudiaeth drwy ddulliau ar ffurf perthynas fel 'y newid mwyaf arwyddocaol' (MSC) ac ymholiad gwerthfawrogol.
Rhannu eich ymchwil ar y Grŵp Gwybodaeth
Un ffordd o sicrhau bod pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn gwybod am eich ymchwil yw cyfrannu blog i'r Grŵp Gwybodaeth. P'un a ydych chi newydd ddechrau prosiect ymchwil gofal cymdeithasol newydd, neu fod gennych ganfyddiadau a all lywio ymarfer, bydden ni wrth ein bodd yn clywed mwy am eich gwaith.
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Chwilio am syniadau prosiect ymchwil
Rydyn ni'n cydweithio i nodi pynciau ymchwil i'w blaenoriaethu ac rydyn ni'n rhannu'r blaenoriaethau hyn gydag ymchwilwyr a chyllidwyr i annog ymchwil newydd.
Os ydych chi'n chwilio am syniadau prosiect ymchwil, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ein prosiect ymchwil ar ein tudalen Gosod blaenoriaethau ymchwil a'r blog Cydweithio i wneud penderfyniadau ar ymchwil.
Cael cyngor a chymorth gydag ymchwil data cysylltiedig
Fel rhan o'n gwaith arweinyddol ar ran Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru rydyn ni’n cynnig cymorth i ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn gwneud ymchwil data cysylltiedig ym maes gofal cymdeithasol, yn benodol ar ofal i oedolion. Mae’r cymorth yn cynnwys:
- grŵp ymchwil data gofal cymdeithasol oedolion
- cyfleoedd lleoliadau PhD
- cymryd rhan yn ein ymarfer gosod blaenoriaethau ymchwil.
Grŵp ymchwil data gofal cymdeithasol oedolion
Mae'r grŵp yn dwyn ynghyd ymchwilwyr sy’n defnyddio, neu gyda diddordeb mewn defnyddio, ymchwil data cysylltiedig yn eu gwaith.
Rydyn ni’n cynnal cyfarfodydd rheolaidd ac yn trefnu digwyddiadau. Rydyn ni hefyd yn cefnogi’r grŵp gyda chynigion cyllid.
Mae gan y grŵp ofod ar-lein i gyfarfod a chydweithio, rhannu syniadau a dysgu. Gallwch chi ddilyn y broses gofrestru ar gyfer y Gymuned Dystiolaeth (sy'n cynnal ein grŵp) drwy dudalen cofrestru ein cymunedau. Os ydych chi'n cael unrhyw drafferth cofrestru gallwch chi gysylltu â cymunedau@gofalcymdeithasol.cymru.
Lleoliadau PhD
Byddwn ni'n rhoi cyfle cyflogedig i fyfyrwyr cymwys i ennill profiad ymarferol a datblygu sgiliau personol a phroffesiynol.
Byddwn ni’n mentora ymgeiswyr llwyddiannus a’u helpu i dyfu rhwydweithiau a chysylltiadau. Yn ogystal â hyn, byddwn ni’n creu’r cyfle iddynt ddatblygu eu dealltwriaeth o dirwedd gofal cymdeithasol yng Nghymru.