Skip to Main content

Ymchwil data cysylltiedig mewn gofal cymdeithasol i oedolion

Rydyn ni wedi cynnal ymarfer gosod blaenoriaethau fel rhan o'n gwaith arweinyddiaeth gydag Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru. Nododd yr ymarfer 10 thema blaenoriaeth ymchwil ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru y mae modd rhoi sylw iddynt drwy ddefnyddio ymchwil data cysylltiedig.

Pam dewis hwn fel un o’n hymarferion gosod blaenoriaethau?

Rydyn ni'n credu ei bod yn bwysig gwneud defnydd o ddata sydd wedi’u casglu eisoes i lywio a gwella polisïau ac arferion gweithio gofal cymdeithasol. Cafodd hyn ei nodi yn yr ymchwil a’r strategaeth ddatblygu ar gyfer Cymru 2018 i 2023 gan Ofal Cymdeithasol Cymru ac Ymchwil Gofal Cymru. Ac mae’n rhan o’n strategaeth ymchwil, arloesi a gwella, Ymlaen (2024 i 2029).

Cafodd yr ymarfer ei gynnal fel rhan o’n rôl fel arweinydd thema gofal cymdeithasol ar gyfer rhaglen waith YDG Cymru.

Roedd y ffocws ar ofal cymdeithasol i oedolion gan fod y gwaith sy’n cael ei wneud â data cysylltiedig gofal cymdeithasol i blant eisoes yn fwy datblygedig. 

Sut gall cysylltu data arwain at gyfleoedd ymchwil?

Gall cysylltu data gofal cymdeithasol i oedolion o bob rhan o Gymru â ffynonellau data eraill (er enghraifft, mewn iechyd neu dai) ein helpu i ddeall mwy am anghenion a phroblemau pobl. Pan fyddwn ni'n cysylltu data, mae’n rhoi darlun mwy cymhleth a chynhwysfawr inni ar lefel poblogaeth nag y gall un set o ddata ei rhoi.

Roedd yr ymarfer gosod blaenoriaethau hwn yn canolbwyntio ar ddata sy’n berthnasol i’r sector gofal cymdeithasol i oedolion. Mae’n ddata sy’n cael eu casglu’n eang ac yn gyffredinol eisoes. Ac mae modd eu dad-adnabod, sy’n golygu nad oes modd adnabod unigolion.

Gallai cysylltu data o’r fath ein helpu i ofyn cwestiynau am bethau fel:

  • pwy sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol
  • patrymau defnydd rhwng gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill fel gofal iechyd
  • anghenion nodedig, sydd heb gael eu diwallu ar hyn o bryd
  • y galw ar y gweithlu ac adnoddau ar gael nawr ac yn y dyfodol
  • rôl gofalwyr di-dâl a gwirfoddolwyr
  • canlyniadau i bobl sy’n defnyddio gofal a chymorth fel eu hiechyd corfforol a meddyliol a’u llesiant.

Fe helpodd yr ymarfer hwn inni ddeall sut y gall ymchwil data cysylltiedig ein helpu i wneud penderfyniadau polisi yn y dyfodol a sut y gallwn ni wneud gwahaniaeth positif i'r rhai sy’n defnyddio gofal a chymorth yn ogystal ag i’r gweithlu gofal cymdeithasol. 
 

Sut cafodd yr ymarfer ei gynnal?

Daeth ystod o randdeiliaid ynghyd gan gynnwys sefydliadau sy’n arfer casglu data, pobl â phrofiad byw o ofal a chymorth, ymarferwyr gofal cymdeithasol, partneriaid yn y trydydd sector, ymchwilwyr a llunwyr polisi.

Defnyddiwyd gwahanol ddulliau i ymgysylltu, gan gynnwys arolygon, grwpiau ffocws, gweithdai a chyfweliadau i ganfod 10 maes blaenoriaeth ar gyfer ymchwil data cysylltiedig. Cafodd weithgor ei sefydlu i helpu i ffurfio a llywio’r ymarfer.

Wrth i'r ymarfer mynd yn ei flaen roedd rhaid gwirio’n gyntaf i weld lle'r oedd ymchwil wedi’i wneud yn barod, wedyn nodi'r themau y mae modd eu hateb drwy ymchwil data cysylltiedig.

Wedyn aethon ni yn ôl at ein rhanddeiliaid i adolygu’r wybodaeth ac i ddewis rhestr fer o themâu. Cafodd y broses hon ei gynnal mewn modd hygyrch er mwyn cynnwys ystod eang o safbwyntiau. 

Cafwyd gweithdy terfynol wedi ei arwain yn annibynnol i’n helpu i ddatblygu consensws ar gyfer y 10 prif flaenoriaeth ymchwil.

Pwy a wnaeth ein helpu i gyflawni'r gwaith hwn?

Roedd ein gweithgor yn edrych ar sut i ddefnyddio ymchwil data cysylltiedig i ateb cwestiynau ynglŷn â’r hyn sydd ei angen ar bobl ym maes gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru. 

Roedd y gweithgor yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, y trydydd sector, Llywodraeth Cymru, y byd academaidd, aelod o’r cyhoedd ac arbenigwr ar flaenoriaethu.

Roedd y grŵp yn cwrdd yn rheolaidd ac yn adolygu ac yn cofnodi cynnydd ar bob cam o’r ymarfer gosod blaenoriaethau. 

Fe wnaethom hefyd ofyn i grwpiau penodol rannu eu barn â ni. Er enghraifft, perchnogion data ac arbenigwyr i edrych ar ddata sydd ar gael eisoes ac wedi’u casglu mewn ffordd y gallwn ni eu defnyddio. 

Fe wnaethom ofyn iddyn nhw nodi rhwystrau neu heriau maen nhw wedi eu profi mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru y gallai data cysylltiedig helpu i fynd i’r afael â nhw.

Roedden ni am glywed hefyd gan bobl â phrofiad byw. Roedd hyn yn golygu siarad â phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth yn ogystal â staff rheng flaen sy’n gweithio yn y sector. Roedden ni am ddysgu am y problemau maen nhw'n eu hwynebu. Ac edrych ar sut i fwydo’r rhain i gwmpas y prosiect. 
 

Eisiau gwybod mwy?

Am ragor o wybodaeth ewch i’r dudalen am ein gwaith yn arwain ar y thema gofal cymdeithasol o fewn YDG Cymru a’n blog ymchwil data cysylltiedig sy’n edrych ar fanteision y dull hwn.