Helpwch ni i osod blaenoriaethau ymchwil
Mae gosod blaenoriaethau yn ymwneud â chanfod a graddio pynciau neu gwestiynau ymchwil.
Mae’r dull hwn yn dod â gwahanol bobl at ei gilydd i rannu ac archwilio’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth, darparwyr gofal cymdeithasol, ymchwilwyr a llunwyr polisi.
Mae gosod blaenoriaethau ymchwil:
- yn helpu ni i nodi lle mae bylchau mewn tystiolaeth neu wybodaeth
- yn dangos beth mae ein rhanddeiliaid allweddol yn meddwl sy’n bwysig i wybod a deall
- yn rhoi gwybodaeth sy’n gallu ein helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal cymdeithasol.
Sut mae’n gweithio?
Rydyn ni’n gofyn i bobl sydd â phrofiad bywyd ac ymarferwyr gofal cymdeithasol beth maen nhw eisiau ei wybod a’i ddeall. Mae hyn yn golygu gallwn ni helpu ymchwilwyr a chyllidwyr i ganolbwyntio ar bynciau ymchwil a chwestiynau sy’n cwrdd ag anghenion penodol.
Mae'r broses yn cynnwys:
- defnyddio gwahanol ddulliau i ddarganfod beth sy’n bwysig i bobl
- archwilio pa ymchwil sydd eisoes yn bodoli neu nodi lle mae bylchau mewn gwybodaeth neu dystiolaeth
- gofyn i'r rhanddeiliaid am help i raddio cwestiynau ymchwil o ran blaenoriaeth a chyrraedd rhestr fer o 10 thema ar gyfer ymchwil.
Ein gwaith gosod blaenoriaethau ymchwil
Yn y gorffennol, rydyn ni wedi gweithio gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ar y cyd â’r James Lind Alliance, ar ddau ymarfer gosod blaenoriaethau:
Mae’r ymarferion diweddaraf yn cynnwys:
Gwaith perthnasol gan eraill sy’n gosod blaenoriaethau ymchwil
Rydyn ni wedi nodi ymarferion gosod blaenoriaethau ymchwil sydd wedi cael eu cynnal gan sefydliadau eraill gall hefyd dynnu sylw at themau ymchwil gofal cymdeithasol:
Darganfod mwy
Mae’r gwaith gosod blaenoriaethau yn helpu ni i ddethol y pynciau ar gyfer ein crynodebau tystiolaeth.
Gallwch chi ddysgu mwy am ein dull gosod blaenoriaethau ymchwil yn y blog Cydweithio i wneud penderfyniadau ar ymchwil.