Skip to Main content

Cefnogaeth gwerthuso

Mae galw cynyddol a mwy o gystadleuaeth am arian yn golygu ei bod yn bwysicach nag erioed i allu dangos effaith eich gwaith caled.

Ond nid yw gwerthuso yn ymwneud ag atebolrwydd yn unig, dylai hefyd eich helpu i ddysgu, addasu a gwella eich gwasanaeth.

Er mwyn helpu i ddangos eich effaith a myfyrio ar eich dysgu, rydyn ni wedi cyflogi arbenigwr gwerthuso yn benodol i’ch cefnogi gyda phob agwedd o werthuso.

Does dim ots beth yw eich maes gwaith, gallwn eich cefnogi i gynnal gwerthusiadau effeithiol sy’n dangos effaith eich gwaith ac yn dangos y gwahaniaeth rydych chi'n ei wneud i fywydau pobl.

Pam mae gwerthuso'n bwysig?

Mae gwerthuso effeithiol yn ein helpu i fesur effaith gwasanaeth neu ymyriad ac yn darparu tystiolaeth o'r newidiadau cadarnhaol yr ydych chi'n eu gwneud i fywydau pobl. 

Gall hefyd ein helpu i ddysgu, trwy archwilio beth sy'n gweithio'n dda, beth sydd angen ei newid a beth sy'n wirioneddol bwysig i bobl sy'n defnyddio'ch gwasanaeth.

Mae gwerthuso'n bwysig ar gyfer atebolrwydd, tryloywder a dysgu, a gall helpu i gyfiawnhau penderfyniadau am gyllid ac adnoddau.

Ein cefnogaeth gwerthuso

Gallwn eich cefnogi ym mhob agwedd ar werthuso. Gallai hyn olygu eich helpu i ddeall y broses, eich cefnogi i adnabod y newidiadau yr ydych chi'n ceisio eu gwneud, neu archwilio pa ddulliau gwerthuso sydd orau i chi.

Rydyn ni'n datblygu pecyn cymorth i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol sydd am ddim ac yn agored i bawb. Mae'n cynnwys:

  • cyfres o sesiynau hyfforddi ar-lein hygyrch i ‘ddad-dirgelu’ gwerthuso
  • cymorth gwerthuso un-i-un wedi'i deilwra ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Rydyn ni hefyd yn gweithio ar greu:

  • fideos hyfforddi gwerthuso byr a bachog i gefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen
  • adnoddau ac offer sy'n cefnogi pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i gynnal gwerthusiadau.

Sesiynau hyfforddi ar-lein

Ar y cyd â’n cydweithwyr yn DEEP rydyn ni wedi rhoi nifer o sesiynau at ei gilydd i helpu i ‘ddad-dirgelu’ gwerthuso a rhoi’r hyder i chi gynnal neu gomisiynu gwerthusiadau eich hun.

Mae ein hyfforddiant gwerthuso ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ond mae'n ddelfrydol ar gyfer unigolion sy'n ymwneud â meysydd fel rheoli prosiectau, perfformiad a gwelliant, ymchwil a datblygu, effaith a chyllid.

Mae pum sesiwn hyfforddi ym mhob cyfres.

  1. Dad-dirgelu gwerthuso: cyflwyniad.
  2. Defnyddio ‘stori newid’ i fesur effaith.
  3. Moeseg a gwerthuso.
  4. Cyflwyniad i werthuso economaidd.
  5. Creadigrwydd a chyfranogiad mewn gwerthuso.

Bachwch y cyfle!

Mae'r gyfres newydd o sesiynau hyfforddi yn cychwyn ar 20 Mawrth 2025

Gallwch chi archebu lle yma: linc Eventbrite.

Nodwch mae nifer cyfyngedig o docynnau sydd gennym ni, felly mae'n well archebu cyn gynted â phosibl i sicrhau eich lle.

Cefnogaeth un i un ar gyfer eich cwestiynau gwerthuso

Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth un i un gydol y flwyddyn i helpu unigolion sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i oresgyn heriau penodol yn ymwneud â gwerthuso. 

Nid oes angen i chi fynychu un o’n sesiynau hyfforddi i gael mynediad at y cymorth hwn a byddwn ni'n gwneud ein gorau i helpu gyda pha bynnag her yr ydych chi'n ei hwynebu.

Mae’r cymorth hwn ar gael i unrhyw un sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol sydd eisiau cymorth i ddatblygu, cynnal neu ddysgu am werthusiadau. Am ragor o wybodaeth am y gefnogaeth hon, anfonwch neges at ein Uwch arweinydd gwerthuso.

Prif gyswllt

Emyr Williams

Emyr Williams

Uwch arweinydd gwerthuso

ymchwil@gofalcymdeithasol.cymru

Rwy'n teimlo'n angerddol am bwysigrwydd gofal cymdeithasol a'r gwahaniaeth mae'n gallu gwneud i fywydau pobl. Dyna'r rheswm rwy'n cefnogi gwerthuso i'ch helpu chi i ddysgu, ac i ddangos yr effaith rydych chi'n ei chael ar fywydau pobl.

Mae gen i dros 15 mlynedd o brofiad o ddangos effaith ar draws amrywiaeth o feysydd polisi cymdeithasol. Fues yn gweithio ym maes darparu gwasanaethau rheng flaen i ddarparu cyngor polisi ar sail tystiolaeth i Lywodraeth Cymru.

Mae fy mhrofiad blaenorol yn cynnwys rhedeg elusen ieuenctid, datblygiad cymunedol, cynnal ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac Y Lab, yn ogystal â chefnogi a gwerthuso effaith datblygiadau arloesol yn y sector cyhoeddus.

Felly, os hoffech chi ddarganfod sut allai helpu eich gwaith, cysylltwch â fi am sgwrs anffurfiol. Gwnaf fy ngorau i helpu mewn unrhyw ffordd posibl.