Skip to Main content

Canllaw adnoddau ar ddefnyddio tystiolaeth

Beth yw'r canllaw?

Mae'r canllaw adnoddau ar ddefnyddio tystiolaeth yn rhoi mynediad i chi at ystod eang o adnoddau a fydd yn eich helpu i lunio a defnyddio tystiolaeth gofal cymdeithasol.

Mae cymorth ar ddod o hyd i dystiolaeth sydd eisoes yn bodoli, casglu data, a dod o hyd i wybodaeth am sut i baratoi cynllun ymchwil neu werthuso. Mae'r canllaw'n llawn adnoddau a fydd yn eich helpu i gyflawni eich nodau ymchwil a gwerthuso.

Cafodd y canllaw ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithrediad ei Fframwaith perfformiad a gwella ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol.

Cafodd ei ddatblygu gan aelodau o Ysgol Ymchwil a Gofal Cymdeithasol Cymru a'r rhaglen Datblygu arfer a gyfoethogir gan dystiolaeth (DEEP) yn 2019. 

Mae'r Grŵp Gwybodaeth wedi cynnal y canllaw ers 2024.

Mae'r holl adnoddau rydyn ni’n cyfeirio atyn nhw yn cael eu hadolygu gan gymheiriaid ac yn berthnasol i ofynion adrodd y Fframwaith perfformiad a gwella. Nid ydyn ni wedi llunio'r adnoddau hyn ein hunain, ac nid ydyn ni ychwaith yn rhoi canllawiau manwl ar sut i ddefnyddio canfyddiadau i lywio ymarfer. I ddysgu rhagor am wahanol ffyrdd o ddefnyddio tystiolaeth yn ymarferol, ewch i Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP).

Pam gafodd yr adnoddau eu dewis?

Mae’r adnoddau yn y canllaw hwn wedi cael eu dethol i helpu pobl i weithredu'r Codau ymarfer mewn perthynas â'r Fframwaith perfformiad a gwella ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol.

Mae’r Fframwaith Perfformiad a Gwella yn helpu awdurdodau lleol i adrodd ar eu gwaith ynghylch y Codau ymarfer a gafodd ei gyhoeddi o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

"Mae’n ceisio gwneud newid go iawn a pharhaus i’r ffordd y mae gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu mesur a’u hadrodd a’r ffordd y mae’r wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i lywio dyfodol gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru."

logos y cyrff sy'n ariannu'r canllaw gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a DEEP