Skip to Main content

Helpwch ni i hyrwyddo'r Grŵp Gwybodaeth

Rydyn ni'n gofyn am eich cymorth i ledaenu'r gair am y Grŵp Gwybodaeth. 

Mae mewnbwn pobl sy’n gweithio ar draws y sector, ar bob lefel, yn hanfodol i lwyddiant y gwasanaeth.

Mae’r pecyn cymorth cyfathrebu hwn yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch chi i’n helpu i yrru’r neges i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Rydyn ni wedi datblygu ystod o ddeunyddiau i chi eu defnyddio - o gopi ar gyfer eich gwefan, i ffilm esboniadol, a llawer mwy.

Ein nod yw annog pobl ledled Cymru i gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaeth newydd, a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal cymdeithasol gyda’n gilydd. Bydden ni’n gwerthfawrogi eich cefnogaeth i gyflawni hynny.

Ffilm esboniadol

Rydyn ni wedi cynhyrchu ffilm fer i egluro ein gweledigaeth ar gyfer y Grŵp Gwybodaeth ac i amlinellu ein tri maes ffocws – ymchwil a data, rhannu a dysgu, ac anogaeth a chyngor.

Gwyliwch y ffilm am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth, neu rhannwch hi gydag eraill a allai fod â diddordeb.

Darllen trawsgrifiad o'r fideo

Mae'r fideo ar gael yn Saesneg hefyd. Cysylltwch â ni ar grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru os hoffech chi lawrlwytho'r fideo.

Posteri

Rydyn ni wedi cynhyrchu dau boster dwyieithog y gallwch eu harddangos yn eich gweithle - un mewn gwyn ac un mewn teal.

Lawrlwytho poster gwyn

Lawrlwytho poster teal

Taflenni

Rydyn ni wedi cynhyrchu dwy daflen y gallwch eu rhannu gyda chydweithwyr. Mae'r taflenni ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Lawrlwytho taflen gwyn (Cymraeg)

Lawrlwytho taflen gwyn (Saesneg)

Lawrlwytho taflen teal (Cymraeg)

Lawrlwytho taflen teal (Saesneg)

Cyflwyniadau

Rydyn ni wedi cynhyrchu cyflwyniad y gallwch ei ddefnyddio i helpu i egluro'r Grŵp Gwybodaeth. Mae'r cyflwyniad ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Lawrlwytho'r cyflwyniad Cymraeg (PowerPoint)

Lawrlwytho'r cyflwyniad Saesneg (PowerPoint)

Copi

Rydyn ni wedi datblygu cynnwys ysgrifenedig y gallwch ei ddefnyddio ar eich gwefan neu mewn cylchlythyr. Mae'r ddwy ddogfen yn cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r copi.

Lawrlwytho copi gwefan

Lawrlwytho copi cylchlythyr