Skip to Main content

Crynodebau tystiolaeth

Dywedoch chi wrthym ni fod dod o hyd i ymchwil gyfredol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn gallu fod yn her.

I'ch cefnogi chi gyda hyn, rydyn ni’n cynhyrchu crynodebau tystiolaeth sy'n cyflwyno canfyddiadau ymchwil mewn ffyrdd sy'n hawdd eu deall.

Yn dibynnu ar y wybodaeth sydd ar gael, gall y crynodebau tystiolaeth gynnig:

  • esboniad byr o sut mae'r pwnc yn berthnasol i ddeddfwriaeth a pholisi Cymreig
  • dolenni i ddata perthnasol ar ein Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol
  • enghreifftiau o arfer addawol o Gymru
  • mynediad at gymorth pellach, gan gynnwys ein cymunedau ymarfer, ein gwasanaeth anogeath arloesedd, a'n cymorth gwerthuso
  • dolenni i ddigwyddiadau a hyfforddiant cysylltiedig
  • restr o’r pum adnodd mwyaf perthnasol sydd naill ai’n rhai mynediad agored neu sydd ar gael yn e-Lyfrgell GIG Cymru.

Rydyn ni wedi dewis ein pynciau ac is-bynciau ar gyfer 2023 i 2024 yn seiliedig ar ein gwaith i osod blaenoriaethau ymchwil, yn ogystal â defnyddio’r blaenoriaethau sydd wedi cael eu gosod gan ADSS Cymru.

Cwrdd â'r tîm

Dr Kat Deerfield

Dr Kat Deerfield

Uwch arweinydd ymchwil

ymchwil@gofalcymdeithasol.cymru

Rwy'n cefnogi gwaith y tîm ymchwil. Dau o'm cyfrifoldebau mwyaf yw rheoli'r cydlynwyr ymchwil a golygu'r crynodebau tystiolaeth. Mae ein tîm yn ymchwilio pynciau gofal cymdeithasol y mae pobl wedi dweud eu bod am ddysgu mwy amdanynt. 

Rydyn ni'n troi'r gwaith hwn yn gynnwys ar gyfer gwefan y Grŵp Gwybodaeth. Cyn i mi ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, roeddwn i'n olygydd llawrydd. Rwyf eisoes wedi gweithio mewn rolau cefnogi ym maes cyfathrebu a rolau ymchwil yn y trydydd sector a'r byd academaidd. Gweithiais yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) ym Mhrifysgol Caerdydd am bum mlynedd, i gychwyn fel gweinyddwr prosiect ac yn ddiweddarach fel cydymaith ymchwil.

Dr Grace Krause

Dr Grace Krause

Prif diben fy rôl yw gwneud ymchwil yn hygyrch i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Fel tîm, rydyn ni'n cymryd ymchwil academaidd, ymchwil gan sefydliadau eraill neu gan bobl gyda phrofiad byw, a data Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn creu gwybodaeth sy'n hawdd ei deall. Rwyf wedi fy hyfforddi mewn gwaith cymdeithasol ac mae gen i brofiad o weithio gydag ystod o bobl. Mae hyn yn cynnwys pobl gydag anabledd dysgu, pobl gyda phrofiad camdrin sylweddau, a goroeswyr gwaith rhyw. 

Mae gen i radd feistr mewn troseddeg a PhD mewn gwyddorau cymdeithasol. Mae fy ngwaith ymchwil yn cynnwys amryw o feysydd megis addysg, agweddau tuag at frechu, y ffordd mae pobl yn trin credoau moesol, ac anghydraddoldeb yn y gweithle.

Dr Flossie Caerwynt

Dr Flossie Caerwynt

Fel cydlynydd ymchwil, fy ngwaith i yw gwneud ymchwil academaidd yn ddeniadol ac yn hygyrch i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Rwy'n gwneud hyn trwy ysgrifennu crynodebau tystiolaeth, sy'n cyfleu egwyddorion allweddol ymchwil i wahanol bynciau sy'n berthnasol i ofal cymdeithasol. 

Cyn dechrau gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, treuliais sawl blwyddyn yn gweithio fel ymchwilydd academaidd i Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd Cymru a Chanolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil Data. Yn y rôl honno gweithiais ar sawl prosiect, gan ganolbwyntio'n bennaf ar bolareiddio gwleidyddol a gweithredu amgylcheddol. Trwy hyn, datblygais brofiad o weithio gyda chymunedau a grwpiau ymgyrchu i gynnal ymchwil fanwl i bynciau sensitif yn y DU a thramor. Mae fy niddordebau ymchwil yn eang, ond mae nhw wastad yn canolbwyntio ar gymuned, hunaniaeth a ffordd o fyw.

Beti Thomas

Beti Thomas

Fy mhrif swyddogaeth yw ysgrifennu crynodebau tystiolaeth, sy'n casglu ymchwil gofal cymdeithasol ac yn ei gwneud yn hygyrch i bobl sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol. 

Mae fy ngwaith ymchwil yn canolbwyntio ar hunaniaeth â'i effaith ar waith/cefnogaeth gofal cymdeithasol. Mae gen i radd meistr mewn cysylltiadau rhyngwladol a dwi yng nghyfnod olaf gradd PhD mewn cymdeithaseg. Aeth fy ymchwil blaenorol i'r afael â rôl actifiaeth wrth-hiliol yng Nghymru. Yn sgil hynny cefais fy nghlodfori fel  yr uwchraddedig mwyaf eithriadol gan Brifysgol John Moores Lerpwl. Dwi hefyd yn rhugl yn y Gymraeg.