Tara Hughes
Swyddog ymchwil
tara.hughes@gofalcymdeithasol.cymruLynsey Cross
Swyddog ymchwil
lynsey.cross@gofalcymdeithasol.cymruRydyn ni'n arwain ar y thema gofal cymdeithasol yn rhaglen waith YDG Cymru. Mae hyn yn golygu ein bod mewn rôl llysgennad ar gyfer ymchwil data cysylltiedig ar draws y sector.
Mae YDG Cymru yn rhan o fuddsoddiad Administrative Data Research (ADR) UK. Mae ADR UK yn dod â data ac ymchwilwyr cymeradwy ynghyd i alluogi ymchwil gall lywio penderfyniadau polisi a gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithiol. Mae YDG Cymru yn cynnwys arbenigwyr gwyddor data, academyddion blaenllaw o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd a thimau arbenigol o fewn Llywodraeth Cymru. Gyda’i gilydd maen nhw’n cynhyrchu tystiolaeth sy’n cael ei gyrru gan ddata gall helpu i lywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am thema gofal cymdeithasol YDG Cymru.
Data gweinyddol yw gwybodaeth sy’n cael ei chasglu gan y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus er mwyn iddyn nhw gyflawni eu gwaith yn effeithiol. Pan fydd pobl yn rhyngweithio â chyrff cyhoeddus fel ysgolion, y GIG neu'r system farnwrol, mae'r wybodaeth sy’n cael ei chreu yn helpu i fonitro a gwella'r gwasanaethau hyn. Ewch i Amdanom ni ADR UK - ADR UK i ddarganfod mwy am ymchwil data gweinyddol.
Mae’n bosib cysylltu data gweinyddol sy’n cael eu casglu mewn gwahanol leoedd i gymharu gwybodaeth o wahanol feysydd o’n bywydau.
Mae hyn yn helpu i:
Rydyn ni'n ymgymryd â'r gweithgareddau canlynol fel rhan o'n rôl llysgennad:
Nid yw Gofal Cymdeithasol Cymru yn casglu unrhyw ddata fel rhan o’r partneriaeth YDG Cymru. Rydyn ni’n annog rhanddeiliaid i rannu eu data’n ddiogel i’w ddefnyddio ar gyfer ymchwil.
Mewn ymchwil data cysylltiedig, mae’r data sy’n cael ei ddefnyddio a’i gysylltu yn cael ei gadw mewn cronfa ddata ddienw a diogel.
Yng Nghymru, rydyn ni’n ffodus i gael mynediad i’r Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Mae hon yn hafan ddiogel data cenedlaethol o setiau data heb eu nodi. Dim ond ymchwilwyr sydd wedi’u cymeradwyo gan brosesau rheoli gwybodaeth (IGRP) annibynnol SAIL all gael mynediad at ddata dienw drwy’r amgylchedd ymchwil diogel hwn. Rhaid i’w prosiect fodloni meini prawf llym a dangos ei fod er budd y cyhoedd.
Mae’n bwysig rhoi sicrwydd i’n rhanddeiliaid bod eu data mewn dwylo da. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n mynd i’r afael ag unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw am rannu data.
O fewn ein rol arweinyddol ar gyfer YDG Cymru, rydyn ni'n dod ag arbenigwyr gwyddor data, academyddion blaenllaw a thimau arbenigol ynghyd. Maen nhw i gyd yn brofiadol mewn rhannu a defnyddio data gweinyddol cysylltiedig mewn ffordd ddiogel a moesegol. A dim ond ar gyfer prosiectau er budd y cyhoedd y byddwn ni’n defnyddio’r data.
Gallwch chi wylio ein tîm thema gofal cymdeithasol a chydweithwyr eraill yn trafod buddion cysylltu data yn ein fideo.
Byddwn ni'n cadw'r adran hon yn gyfredol drwy ychwanegu newyddion, blogiau ac adnoddau eraill. Bydd y rhain wedi eu creu gennym ni neu mewn partneriaeth ag YDG Cymru ac eraill.
Swyddog ymchwil
tara.hughes@gofalcymdeithasol.cymruSwyddog ymchwil
lynsey.cross@gofalcymdeithasol.cymru