Pontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion
Cafodd y prosiect ei gynnal rhwng Ionawr ac Awst 2024.
Beth oedd amcanion yr ymarfer?
Roeddwn ni am wybod mwy am yr ansicrwydd a’r heriau sy’n gysylltiedig â’r pontio o gymorth gofal cymdeithasol plant i oedolion.
Yn aml mae’r cyfnod hwn yn golygu bod pobl ifanc yn wynebu newid mewn lleoliad neu yn yr unigolion y maen nhw wedi’u cael yn eu cefnogi. Mae’n bosibl y byddan nhw’n ei chael hi’n fwy anodd cael cymorth neu mae’r cymorth sy’n gyfarwydd iddynt drwy blentyndod yn dod i ben.
Ein nod oedd cael dealltwriaeth eang o'r ymchwil sydd ei angen ynghylch y cyfnod pontio hwn a'r heriau sydd ynghlwm wrtho. Roeddwn yn awyddus i weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion iau sy’n defnyddio gofal a chymorth, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Glywsom ni hefyd gan bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a chydweithwyr eraill mewn sectorau fel iechyd, addysg a’r system gyfiawnder.
Roeddwn ni am ddarganfod pa rwystrau, problemau ac ansicrwydd y mae pobl ifanc yn eu hwynebu fel rhan o bontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion.
Pwrpas yr ymarfer oedd nodi cwestiynau ymchwil sy'n mynd i'r afael â bwlch mewn tystiolaeth a gwybodaeth ynghylch pontio. Bydd hyn yn ysgogi ymchwil a fydd yn cyfrannu at well gofal a chymorth i bobl ifanc a'u teuluoedd a'u gofalwyr.
Sut cafodd yr ymarfer ei gynnal?
Cafodd wahanol ddulliau eu defnyddio fel arolygon, grwpiau ffocws, gweithdai a chyfarfodydd wedi’u hwyluso i gasglu barn pobl ar bontio a chwilio am fylchau mewn gwybodaeth ac ymchwil.
Cafodd gwestiynau am bontio eu casglu - yn benodol y rhai oedd yn bwysig i’n grwpiau rhanddeiliaid. Ac ar gam olaf yr ymarfer, daeth pobl at ei gilydd i gytuno ar y 10 cwestiwn blaenoriaeth uchaf ar gyfer ymchwil ar y pwnc hwn.
Pwy wnaeth ein helpu ni i gyflawni'r gwaith hwn?
Cafodd weithgor o arbenigwyr pwnc ei sefydlu. Roedd yn cynnwys ymarferwyr gofal cymdeithasol oedolion a phlant, gweithwyr cymdeithasol, ymchwilwyr a gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol i’n helpu i lunio ac arwain yr ymchwil.
Roedd y gweithgor yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn adolygu ac yn siapio cynnydd yr ymarfer ar bob cam.
Canlyniadau'r ymarfer: y 10 blaenoriaeth buddugol
Ar ddiwedd y broses, fe gyrhaeddon ni y 10 blaenoriaeth ymchwil i archwilio cwestiynau ynghylch pontio nad ydynt wedi’u hateb gan ymchwil bresennol.
Gallwch chi ddod o hyd i'r prif gwestiynau cafodd eu dewis gan ein rhanddeiliaid ar y dudalen: Ein 10 blaenoriaeth ymchwil buddugol: pontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion.
Eisiau gwybod mwy?
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen Beth rydyn ni’n ei olygu wrth osod blaenoriaethau ymchwil? a'n blog Cydweithio i wneud penderfyniadau ar ymchwil.