
Angharad Dalton
Rheolwr Anogaeth Arloesedd
anogaetharloesedd@gofalcymdeithasol.cymruEin gwasanaeth anogaeth yw’r cyntaf o’i fath ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’n rhoi mynediad i chi at anogwr a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich syniadau i wella arfer, prosesau, gwasanaethau a chanlyniadau.
Os oes gan eich tîm syniad gwych yr hoffech chi ei brofi, rydyn ni yma i'ch cefnogi chi i wneud hynny'n ddiogel ac i'w helpu i gyrraedd ei botensial llawn.
Fe wnaethon ni greu ein gwasanaeth anogaeth i helpu i arwain a chefnogi’r arloesedd sy’n digwydd ar draws y system ofal cymdeithasol i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio.
Rydyn ni'n gwybod bod pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn datblygu syniadau newydd am y ffordd maen nhw'n gweithio drwy'r amser. Mae ein gwasanaeth yma i helpu eich syniad i gael yr effaith fwyaf posibl.
Mae'r gwasanaeth ar gyfer tîmoedd o bedwar neu mwy sy'n gweithio i arloesi neu wella eu hymarfer i ddarparu gwasanaethau gofal gwell.
Rydyn ni am glywed gan bobl ar unrhyw gam o'u gyrfa sydd â syniadau maen nhw am eu profi ar lawr gwlad.
Anfonwch eich syniadau a byddwn ni'n ystyried sut y gallwn eich cefnogi orau.
Os caiff eich tîm ei ddewis i fod yn rhan o’r gwasanaeth anogaeth, byddwch chi'n derbyn 6 awr o anogaeth ar-lein gan anogwr, sy’n arbenigwyr ar gyflawni newid.
Byddan nhw’n eich helpu i ddatrys problemau ac yn magu’r hyder i barhau i ddefnyddio’ch ffordd newydd o weithio unwaith y bydd yr anogaeth wedi dod i ben.
Gall y gwasanaeth cefnogi eich tîm i symud o syniadau i weithredu. P'un a oes angen i chi brofi syniad neu ddatblygu ffordd o ddeall ei effaith, gallwn ni helpu.
Hyd yn oed os na chaiff eich prosiect ei ddewis i fod yn rhan o’r gwasanaeth anogaeth, byddwn ni'n eich helpu i ddod o hyd i gymorth arall i’ch helpu i symud eich prosiect yn ei flaen.
Rhowch drosolwg i ni o'ch prosiect neu syniad trwy lenwi ein ffurflen gais, neu anfonwch gais fideo byr i angharad.dalton@gofalcymdeithasol.cymru.
Rydyn ni wrth law i helpu gyda'r broses ymgeisio, felly cysylltwch os oes cwestiynau gennych.
Darllenwch telerau ac amodau ein gwasanaeth anogaeth arloesedd.
Rheolwr Anogaeth Arloesedd
anogaetharloesedd@gofalcymdeithasol.cymru