Skip to Main content
Untitled design

Cyfleu eich pwynt: Cyflwyniad i sut i gyflwyno data yn effeithiol

Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?

Mae’r cwrs hyfforddiant hwn wedi’i anelu at gydweithwyr llywodraeth leol. Sylwch: mae uchafswm o ddau gynrychiolydd y cyngor.

Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac mae wedi ei anelu at ddechreuwyr. Ni oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddata neu ystadegau.

Beth fyddaf yn ei ddysgu?

Mae'r cwrs hyfforddiant hwn yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i’ch helpu i gyflwyno’ch data'n effeithiol, ac i wneud yn siŵr bod eich cynulleidfa’n deall y negeseuon bwriadedig yn gyflym ac yn hawdd.

Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu:
- yr egwyddorion sy’n sail i gyflwyniad data da
- y dulliau mwyaf cyffredin o gyflwyno data – y da a’r drwg
- sut y gallwch gyflwyno data i wahanol gynulleidfaoedd i greu’r effaith fwyaf bosib.

Tagiau sgiliau:

  • data
  • cyflwyno data