Deall eich gwybodaeth: Cyflwyniad i ystadegau cryno
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?
Mae’r cwrs hyfforddiant hwn wedi’i anelu at gydweithwyr llywodraeth leol. Sylwch: mae uchafswm o ddau gynrychiolydd y cyngor.
Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac mae wedi ei anelu at ddechreuwyr. Ni oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddata neu ystadegau.
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Gall ystadegau cryno eich helpu i wneud synnwyr o'ch data yn gyflym ac yn hawdd drwy symleiddio'r tueddiadau allweddol. Er enghraifft, gall cymryd cyfartaledd eich helpu i ddeall sut mae'ch data'n edrych.
Mae'r cwrs hyfforddiant hwn yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i’ch helpu i ddeall sut i grynhoi’ch data yn ystadegau hawdd eu dehongli a’u deall.
Bydd y cwrs hwn yn cwmpasu:
- sut i ddehongli ystadegau
- y mesurau ystadegol mwyaf cyffredin
- sut y gellir eu cyfrifo a phryd y dylid eu defnyddio.
Tagiau sgiliau:
- data
- ystadegau