Skip to Main content
SCW TRL image size 2

Hanfodion Power BI

Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?

Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol ac eithrio bod yn gyfarwydd â gwaith safonol cyfrifiadur a systemau meddalwedd safonol – fodd bynnag, mae profiad blaenorol neu fod yn gyfarwydd â systemau TG, Excel, a busnes cyffredinol yn ddymunol.

Byddwch chi’n dysgu’r sgiliau technegol sydd eu hangen arnoch i gyrraedd eich nodau a bydd yn rhoi’r sgiliau a’r offer sydd eu hangen i lwyddo.

Beth fyddaf yn ei ddysgu?

Power BI yw datrysiad Deallusrwydd Busnes Microsoft ar gyfer dadansoddi data a delweddu a rhannu data. Mae'n eich galluogi i ddatblygu adroddiadau a dangosfyrddau rhyngweithiol yn gyflym a rhannu delweddau dylanwadol gyda chwsmeriaid neu'ch tîm. Bydd y cwrs undydd hwn yn eich cyflwyno i'r feddalwedd, sut i'w defnyddio orau, a'r ystod o gymwysiadau posibl a allwch eu defnyddio yn eich sefydliad.

Gan ddechrau gyda sut i fewnforio data i Power BI o wahanol fformatau ffeil a chronfeydd data, byddwch chi wedyn yn symud ymlaen i archwilio gwahanol dechnegau delweddu a thechnegau hidlo. Nesaf, byddwch chi’n canolbwyntio ar ddeall a gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o siart a'r data y gellir eu defnyddio i'w cynrychioli. Yn olaf, byddwn ni’n dangos i chi sut i hidlo ac amlygu darnau penodol o wybodaeth i wella cyflwyniad eich negeseuon allweddol.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu

- Beth ydy Power BI?
- Cyflwyniad
- Amlinelliad ac Amcanion
- Bwrdd Gwaith Power BI
- Mewnforio ffeiliau (Cael Data)
- Perthnasoedd Data
- Gosod Perthnasoedd Data
- Gweld Perthnasoedd
- Golygu Perthnasoedd
- Creu Delweddau a Dangosfyrddau Rhyngweithiol
- Siartiau Cylch, Llinell a Chyfuniad
- Gweithio gyda Matricsau
- Gweithio gyda Chardiau
- Data Geo
- Categoreiddio Data a Mapiau
- Tablau a Fformatio Amodol
- Mapiau a Data Daearyddol
- Cardiau KPI
- Fformatio Delweddau
- Hidlo Data
- Meddalwedd ‘slicer’
- Hidlau Lefel Delweddu
- Hierarchaethau a Hierarchaethau Ailddefnyddiadwy
- Ymchwilio’n fanwl yn ôl dyddiad
- Golygu Rhyngweithiadau Rhwng Siartiau
- Cyfrifo Data gan ddefnyddio DAX (bwrdd gwaith yn unig)
- Creu colofn wedi'i chyfrifo
- Cwblhau Fformiwlâu DAX
- Rhannu Adroddiadau a Dangosfyrddau

Ydych chi eisiau creu dadansoddiadau data a delweddiadau effeithiol i helpu'ch busnes i symud ymlaen yn ei nodau yn hyderus? Os felly, dyma’r cwrs ar eich cyfer chi!

Lleoliad

Coleg Cambria Yale, Grove Park Road, Wrexham, LL12 7AB

Tagiau sgiliau:

  • data
  • cyflwyno data
  • delweddiadau
  • power bi