Ymgysylltu â dinasyddion: Cyflwyniad i ddylunio a rhedeg grwpiau ffocws
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?
Mae’r cwrs hyfforddiant hwn wedi’i anelu at gydweithwyr llywodraeth leol. Sylwch: mae uchafswm o ddau gynrychiolydd y cyngor.
Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac mae wedi ei anelu at ddechreuwyr. Ni oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddata neu ystadegau.
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Mae'r cwrs hyfforddiant hwn yn darparu cyngor ac arweiniad ymarferol i’ch helpu i ddeall pam, sut a phryd byddech chi’n trefnu ac yn cynnal grŵp ffocws i gefnogi’ch gwaith.
Yn aml defnyddir grwpiau ffocws i ymgysylltu â grŵp bach o ddinasyddion i ddeall sut maen nhw'n teimlo am fater, polisi, cynnyrch, neu berson. Fel arfer maent yn cynnwys chwech i wyth o gyfranogwyr yn cael eu harwain drwy drafodaeth gan un neu ddau o hwyluswyr.
Bydd y cwrs hwn yn cwmpasu:
- beth yw grwpiau ffocws, eu pwrpas, a phryd i’w defnyddio
- yr elfennau allweddol sydd eu hangen i ddylunio grwpiau ffocws
- sut i ddewis cyfranogwyr a sicrhau cyfranogiad, gan gynnwys dulliau i ennyn diddordeb - cyfranogwyr anodd-eu-cyrraedd
- sut i redeg grŵp ffocws.
Tagiau sgiliau:
- data
- grwpiau ffocws