Data Mawr: Darlun Mwy
Ymunwch â ni ar gyfer Digwyddiad Data Mawr cyntaf 2025 - Data Mawr: Darlun Mwy
Hoffai tîm Dadansoddeg Uwch yr Adnodd Data Cenedlaethol, mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, eich gwahodd i’r digwyddiad nesaf yn ein cyfres Digwyddiad Data Mawr.
Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar y galluogwyr sy’n troi mewnwelediadau data yn newid y gellir ei weithredu. Gan adeiladu ar y trafodaethau yn ein digwyddiad blaenorol, lle buom yn archwilio’r ffactorau y tu hwnt i’r offer a’r dechnoleg sydd eu hangen i wneud mewnwelediadau a yrrir gan ddata yn weithredadwy, bydd y sesiwn hon yn mynd gam ymhellach.
Bydd ein siaradwyr yn archwilio gwahanol agweddau ar wneud i newid ddigwydd, gan gynnwys arweinyddiaeth a diwylliant, meithrin arloesedd, ymgysylltu â phobl, ac enghreifftiau byd go iawn o brosiectau a yrrir gan ddata sydd wedi dod yn realiti.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gael trafodaethau treiddgar ac i rwydweithio gydag arweinwyr y diwydiant.
Mae’r digwyddiad hwn yn agored i weithwyr proffesiynol ar draws meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, awdurdodau lleol, y byd academaidd, y Senedd a Llywodraeth Cymru.