Skip to Main content

Gweminar ar fewnwelediadau sy'n cael eu gyrru gan Ddata: Archwilio Bywydau Plant a Phobl Ifanc sydd â phrofiad o ofal

Mae’n bleser gan Administrative Data Research UK a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol eich gwahodd am ddigwyddiad ar-lein i lansio adroddiad nodedig am fywydau plant sydd wedi bod mewn gofal ledled y DU.

Bydd y gweminar hwn yn rhoi cyfle i ymchwilwyr, llunwyr polisi ac ymarferwyr gael mewnwelediadau gwerthfawr am gyfleoedd bywyd plant sydd wedi bod mewn gofal yn seiliedig ar eu data gweinyddol, a chlywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a chyn Gomisiynwyr Plant.

Am yr adroddiad

Bydd yr adroddiad hwn yn arddangos dadansoddiad data hirdymor gwerthfawr ar draws anghydraddoldebau, amrywiadau rhanbarthol, arferion gofal esblygol ac effaith hirdymor. Gall y rhain helpu i nodi themâu hollbwysig ar gyfer llunwyr polisi, gan ddangos gwerth a defnyddioldeb data gweinyddol i helpu i gael mewnwelediad i fywydau’r rhai sy’n profi gofal cymdeithasol.

Un o gryfderau allweddol data gweinyddol yw'r gallu i gynhyrchu mewnwelediadau a yrrir gan ddata i nodi lle mae angen mwy o gymorth a nodi enghreifftiau o lwyddiant. Mae llawer o blant sydd â phrofiad o ofal yn byw bywydau hapus a bodlon. Bydd ymgorffori data gweinyddol mewn ymchwil a datblygu polisi yn arwain at oblygiadau byd go iawn i blant sydd wedi cael profiad o ofal er mwyn sicrhau y gallant oll ffynnu.

Bydd y symposiwm yn cynnwys cyflwyniadau gan dimau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chyflogau a Dynameg Cyflogaeth, yn amlinellu datblygiadau gyda setiau data enillion allweddol. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyfres o bapurau gwahoddedig.

Cofrestrwch