Sut i ddefnyddio'r ddyfais botensial ddigidol - sesiwn hyfforddi a chymorth
Mae’r digwyddiad hwn yn sesiwn hyfforddi a chymorth i bobl sydd am ddefnyddio’r ddyfais botensial ddigidol.
Bydd y sesiwn yn para 45 munud.
Byddwn ni’n trafod:
- sut i gael mynediad at y ddyfais
- sut i ddefnyddio’r ddyfais
- sut i ddeall eich canlyniadau
- awgrymiadau i’ch helpu i ddechrau ar eich taith ddigidol.
Byddwn ni hefyd yn rhoi amser i chi ofyn cwestiynau am y ddyfais a rhoi adborth.
Beth yw’r ddyfais botensial ddigidol?
Mae’n ddyfais am ddim sy’n eich helpu i gael darlun cyflawn o’ch sgiliau digidol presennol chi a’ch sefydliad.
Bydd y ddyfais hefyd yn rhoi cipolwg i ni o’r sefyllfa ledled Cymru, a byddwn ni’n rhannu hyn mewn adroddiad cenedlaethol yn ddiweddarach yn 2025.
I ddysgu mwy am sut gall y ddyfais fod yn ddefnyddiol i chi a’ch sefydliad, ewch i: Deall eich potensial digidol | Gofal Cymdeithasol Cymru
Gwybodaeth ymuno:
Byddwn ni’n defnyddio system fideo-gynadledda Zoom i gynnal y sesiwn. Byddwch chi’n derbyn e-bost gyda dolen i ymuno â’r sesiwn.