Canoli preswylwyr o fewn eu gofal – Cyd-greu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn – Lansio pecyn cymorth
Ymunwch ag Age Cymru ar ddydd Mercher, 22 Ionawr ym Mhrifysgol De Cymru yn Nhrefforest, ar gyfer lansiad pecyn cymorth newydd a fydd yn cefnogi llesiant preswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal.
Mae Age Cymru wedi datblygu’r pecyn cymorth fel casgliad o adnoddau defnyddiol er mwyn galluogi preswylwyr cartrefi gofal, eu teuluoedd a’u ffrindiau i greu lleoliad delfrydol er mwyn cefnogi eu llesiant drwy ganoli pobl hŷn o fewn eu gofal.
Ariennir y pecyn cymorth gan Lywodraeth Cymru, a chafodd ei greu yn seiliedig ar sgyrsiau gyda phreswylwyr a staff cartrefi gofal, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u profiadau gwerthfawr i ddeall a bodloni eu hanghenion.
Ymunwch ag Age Cymru yn nigwyddiad lansio De Cymru i:
- Dysgwch sut gallwch chi ddefnyddio’r pecyn gwybodaeth yn eich cartref gofal
- Dewch i glywed am esiamplau o ganoli pobl o fewn eu gofal, a sut gall hyn effeithio ar eu bywyd
- Dewch i rwydweithio gydag eraill a rhannu arferion gorau
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n gweithio mewn cartref gofal yng Nghymru, yn cynnwys rheolwyr, cydlynwyr gweithgareddau a gweithwyr gofal; mae yna groeso hefyd i bobl sydd â diddordeb mewn cefnogi llesiant preswylwyr cartrefi gofal. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n archebu eich lle cyn iddi fynd yn rhy hwyr; defnyddiwch y ddolen isod.
Mae parcio ar y safle yn rhad ac am ddim, a byddwn yn darparu cinio.