Ein gwaith
Yng Ngofal Cymdeithasol Cymru, rydyn ni’n gwybod bod y wybodaeth gywir yn allweddol i’ch helpu chi yn eich swydd.
Dyna pam rydyn ni wedi creu’r Grŵp Gwybodaeth, gwasanaeth ymchwil, data ac arloesi sy’n agored i unrhyw un sy’n gweithio yng ngofal cymdeithasol neu sydd â diddordeb yn y maes.
Rydyn ni’n canolbwyntio ar dri maes allweddol – ymchwil a data, rhannu a dysgu, ac anogaeth a chyngor.
Bydd gwybodaeth am ddigwyddiadau ar gael hefyd, er mwyn eich helpu chi i wybod y diweddaraf am bethau sy’n digwydd yn y maes gofal yng Nghymru a thu hwnt.