Skip to Main content

Cynhadledd Flynyddol BASW Cymru 2025

Cynhadledd Flynyddol BASW Cymru 2025

Byd Yfory: Beth sydd o’n blaenau ar gyfer Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru?

Nod y gynhadledd undydd hon yw dod ag ymarferwyr, rheolwyr, myfyrwyr ac unrhyw un sy’n gweithio ym maes gwaith cymdeithasol ynghyd, i ganolbwyntio ar ‘Byd Yfory: Beth sydd o’n blaenau ar gyfer Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru’. Sut olwg fydd ar waith cymdeithasol yn y 10 mlynedd nesaf a beth sydd angen i ni ganolbwyntio arno i barhau i ddiwallu anghenion unigolion a'n cymdeithas?

O’r effaith ar iechyd meddwl sy’n deillio o newid yn yr hinsawdd i’r datblygiadau mewn Deallusrwydd Artiffisial, drwodd i newidiadau mewn arferion gwaith sy’n deillio o sifftiau a datblygiadau cymdeithasol; nod y gynhadledd undydd hon yw ysgogi trafodaeth a datblygu camau gweithredu diriaethol ar gyfer newid.

Mae BASW Cymru yn eich gwahodd i fod yn rhan o’r newid hwn. I rannu eich profiadau, eich gweledigaeth a'ch syniadau ar gyfer y dyfodol a gyda'n gilydd, byddwn yn datblygu maniffesto ar gyfer newid sy'n hyrwyddo gwaith cymdeithasol fel y proffesiwn wrth galon cymunedau, gan hwyluso cysylltiadau cymdeithasol, cydlyniant cymdeithasol, cefnogi teuluoedd ac unigolion.

Mwy o wybodaeth ac i gofrestru