
Cymorth a datblygiad cymunedau ymarfer
Cynnig help i ddod â phobl at ei gilydd.
Gall dod â phobl at ei gilydd o amgylch angerdd neu arbenigedd maen nhw'n ei rhannu fod yn ffordd wych o gefnogi arloesedd a gwella.
Dyna pam wnaethon ni greu ein pedair cymuned ymarfer.
Trwy redeg y cymunedau hyn, mae ein tîm o reolwyr cymunedol wedi ennill ystod eang o sgiliau a phrofiadau.
Rydyn ni nawr am rannu’r wybodaeth honno ag eraill sydd â diddordeb mewn archwilio dull cymunedol o fynd i’r afael â heriau gofal cymdeithasol.
Byddwn ni'n gwneud hyn drwy ein gwasanaeth cymorth a datblygiad cymunedau ymarfer.
Beth yw cymuned ymarfer?
Yn ein gwaith ni, rydyn ni'n diffinio cymuned ymarfer fel:
Grŵp o bobl sy'n rhannu diddordeb neu broffesiwn cyffredin ac yn dod at ei gilydd i ddysgu, rhannu gwybodaeth a phrofiadau, a datrys problemau.
Mae nodweddion cymuned yn cynnwys:
- dod â phobl ynghyd o amgylch diddordeb, angerdd, arbenigedd neu broffesiwn cyffredin
- cyfranogiad rheolaidd a gweithredol, a chydweithio rhwng aelodau
- dysgu trwy rannu gwybodaeth a phrofiadau
- teimlo'n fwy cysylltiedig â'ch gwaith, a chydweithwyr yn cefnogi ei gilydd
- cysylltu â phobl o'ch sefydliad eich hun a sefydliadau eraill.

Mae cymunedau yn cefnogi sefydliadau i ddeall a dysgu o farn aelodau.
Pwy ydyn ni'n gallu cefnogi?
Byddwn ni'n cefnogi pobl sy’n mynd i’r afael â heriau gofal cymdeithasol gall elwa o ddefnyddio dull cymunedol.
Efallai eich bod chi wedi penderfynu dechrau cymuned yn barod, neu efallai eich bod chi'n chwilfrydig am fanteision y dull. Y naill ffordd neu'r llall, gallwn ni eich helpu.
Os ydych chi'n gweithio ym maes gofal plant a blynyddoedd cynnar, efallai na fyddwch chi'n gymwys. Os nad ydych chi'n siŵr os ydych chi'n gymwys, cysylltwch â ni cyn i chi wneud cais.
Am delerau ac amodau llawn, cliciwch yma.
Pam ydyn ni'n cynnig y cymorth hwn?
Rydyn ni'n gwybod fod yna heriau gofal cymdeithasol a fyddai’n elwa o ymagwedd gymunedol.
Ond mae pobl yn dal yn ansicr beth yw cymunedau, pa sgiliau fydd eu hangen i redeg un, a faint o waith sydd ei angen.
O’n profiad ein hunain, rydyn ni wedi darganfod y gall cymunedau fod yn ddull gwerthfawr wrth gefnogi pobl i rannu syniadau ac arfer da.
Rydyn ni'n gwybod hefyd bod galw am y cymorth hwn, oherwydd mae pobl wedi gofyn i ni am wybodaeth a chyngor o gwmpas sefydlu cymuned.
Drwy gynnig y cymorth hwn, ein nod yw helpu i sicrhau bod cymunedau newydd yn cael eu cynllunio a’u rhedeg mewn ffordd sy’n rhoi’r cyfle gorau iddyn nhw gyflawni eu nodau.
Bydd cynnig y cymorth hwn hefyd yn ein helpu i gyflawni uchelgeisiau ‘Ymlaen’ – y strategaeth ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol.

Mae pobl yn ymuno â chymunedau ymarfer i rannu a meithrin eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth.
Sut allwn ni eich cefnogi?
Gallwn ni eich cefnogi i wneud y canlynol:
- archwilio a yw ymagwedd gymunedol yn addas i chi a'ch ymarfer chi
- adeiladu achos dros sefydlu cymuned
- cynhyrchu syniadau a'u mireinio
- dod o hyd i adnoddau ar gyfer llywodraethu, cynllunio ac ymgysylltu
- datblygu eich arddull rheoli cymuned eich hun
- cynllunio gweithgareddau, fel cyfarfodydd aelodau
- gweithio gydag eraill ar weithgareddau cymunedol
- penderfynu a yw’r cymorth hwn yn addas ar gyfer eich anghenion.
Sut all cymorth edrych?
Gallai ein cefnogaeth gynnwys:
- sesiynau agored i gwrdd â'n tîm cymunedau a dysgu mwy am gymunedau ymarfer
- sgwrs un-i-un i weld a yw'r gefnogaeth hon yn addas
- sesiynau cymorth un-i-un rheolaidd yn seiliedig ar nodau sydd wedi'u cytuno
- dod â rheolwyr cymunedau at ei gilydd i ddysgu oddi wrth ei gilydd.
Dewch i sesiwn gwybodaeth
Rydyn ni'n cynnal sesiynau gwybodaeth rheolaidd lle gallwch chi ddarganfod mwy am gymunedau ymarfer a'r gefnogaeth rydyn ni'n ei chynnig. Bydd ein sesiwn wybodaeth nesaf yn cael ei chynnal ar:
- 10 Ebrill, 11am i 12pm - ar-lein
Gwnewch gais am gymorth
Os oes gennych chi syniad hoffech chi ei archwilio gyda ni, cwblhewch ein ffurflen mynegi diddordeb.
Angen mwy o wybodaeth?
Os hoffech chi wybod mwy am ein gwasanaeth cymorth a datblygiad cymunedau ymarfer, cysylltwch â cymunedau@gofalcymdeithasol.cymru.