
Adnodd sgiliau ymchwil, arloesi a gwella

Defnyddiwch yr adnodd hwn i ddod o hyd i hyfforddiant ac adnoddau perthnasol i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ymchwil, arloesi a gwella
Gwybodaeth am yr adnodd
Mae'r adnodd hwn yn eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd sy'n cefngogi defnyddio ymchwil a thystiolaeth, gwerthuso eich gwaith a chyflwyno dulliau newydd.
Gall helpu:
- datblygu eich set sgiliau
- cyflwyno cyfleoedd i ddatblygu'r sgiliau hyn i'ch tîm
- creu diwylliant sy'n herio'r ffordd bresennol o weithio.
Sut i ddefnyddio'r adnodd hwn
Mae pedair thema allweddol yn sail i'r adnodd hwn. Rydyn ni’n nodi dull gweithredu ymarferol ar gyfer pob thema gyda gwybodaeth berthnasol am hyfforddiant, digwyddiadau ac adnoddau hunanddysgu.
Cliciwch bob thema i ddarganfod mwy:
- Defnyddio tystiolaeth: cael cymorth i ddefnyddio tystiolaeth yn eich ymarfer ac wrth wneud penderfyniadau.
- Gwella ac arloesi: deall sut i roi hyn ar waith mewn ymarfer bob dydd, datblygu gwasanaethau a newid eich sefydliad.
- Gwerthuso eich gwaith: mesur eich cyfraniad yn effeithiol a dangos y gwahaniaeth y mae eich gwaith yn ei wneud.
- Llunio diwylliant: arwain a chyfrannu at ddiwylliant sy’n hyrwyddo cymryd risgiau cadarnhaol a chanlyniadau gwell i’r bobl rydyn ni’n cefnogi a gofalu amdanyn nhw.
Termau sy'n cael eu defnyddio
Weithiau rydyn ni’n defnyddio termau fel ymchwil, arloesi a gwella yn gyfnewidiol. Mae'r diffiniadau hyn wedi bod yn sail i ddatblygu’r adnodd hwn.
Mae ymchwil yn golygu casglu gwybodaeth newydd i fynd i'r afael â chwestiynau penodol gan ddefnyddio dulliau systematig a thrylwyr. Rydyn ni’n defnyddio diffiniad eang o ymchwil sy'n cynnwys ymchwil academaidd yn ogystal ag ymchwil a gwerthuso sy'n seiliedig ar ymarfer.
Mae tystiolaeth yn derm cyffredinol ar gyfer gwahanol fathau o wybodaeth. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith ymchwil, profiad bywyd, a gwybodaeth sy'n dod o ymarferwyr a sefydliadau. Mae’n golygu dysgu am yr hyn sy’n gweithio’n dda (beth sy’n effeithiol a beth sydd ddim yn effeithiol). Gall ddod o ymchwil, ymarferwyr a sefydliadau ac o ddata sy'n cael eu casglu'n rheolaidd gan wasanaethau gwahanol. Mae hefyd yn defnyddio profiadau a syniadau pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth ac aelodau'r teulu a ffrindiau.
Mae arloesi’n cyfeirio at ddefnyddio gwybodaeth a dulliau newydd i wella sut mae pethau’n cael eu gwneud. Mae’n digwydd mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys newidiadau bach a graddol. Er enghraifft, gwneud system yn haws i weithio ynddi, newid i wasanaeth, creu technoleg digidol newydd, neu ffordd newydd o fynd ati i ymarfer. Mae ymarferwyr gofal cymdeithasol yn arloesi bob dydd mewn ymateb i'r hyn sy’n bwysig i’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.
Mae gwella'n golygu newid graddol a chadarnhaol. Mae'n ystyried gwahanol ffyrdd o gynllunio, rheoli a darparu gofal a chymorth. Mae’n wahanol i arloesi oherwydd mae’n cynnwys yr elfen o barhau ac adeiladu ar waith blaenorol. Mae hyn yn golygu bod ffyrdd newydd o wneud pethau'n seiliedig ar fodelau sydd eisoes yn bodoli.

"Rydyn ni eisiau creu diwylliant lle mae tystiolaeth yn ganolog i'r broses gyflawni ac yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ar bob lefel o ofal cymdeithasol, a lle mae pobl yn teimlo ysbrydoliaeth a chefnogaeth i roi cynnig ar bethau newydd."
Cysylltu â ni
Rydyn ni’n croesawu eich adborth ar yr adnodd hwn. Hoffen ni glywed eich awgrymiadau am unrhyw gyfleodd neu ddolenni ychwanegol y gallwn ni eu cynnwys.
Gallwch chi anfon e-bost at: grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru.