
Dad-dirgelu gwerthuso - cyflwyniad
Dad-Dirgelu Gwerthuso - Cyflwyniad
Gan Dr Gill Toms a Emyr Williams
Mae 24 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.
Mae casglu dysg a dangos effaith eich gwaith yn hanfodol mewn gofal cymdeithasol, a gall ymarfer gwerthuso eich helpu i wneud hyn. Fodd bynnag, gall gwerthusiadau ddrysu pobl, felly mae'r sesiwn hon yn gyflwyniad sylfaenol i werthuso mewn gofal cymdeithasol, wedi'i hanelu at unrhyw un sydd ag ychydig neu ddim profiad o wneud gwerthusiadau. Ein nod yw ‘dad-dirgelu’r’ broses werthuso a dangos sut y gall unrhyw un sydd â’r meddylfryd cywir ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau presennol i gipio dysgu a dangos effaith yn well. Bydd y sesiwn yn ymdrin â:
- beth yw gwerthuso a sut y gall fod o fudd i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol
- pam a phryd i gynnal gwerthusiadau
- agweddau allweddol o feddylfryd gwerthuso
- cyflwyniad i rai dulliau gwerthuso cyffredin.
Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn:
- gwybod beth yw gwerthuso a sut y gall eich helpu yn eich gwaith.
- deall sut y gall meddylfryd gwerthuso eich helpu i gynllunio gwerthusiad a mesur eich effaith.
- teimlo'n fwy hyderus i gynllunio, comisiynu neu gynnal eich gwerthusiadau eich hun.