
Symposiwm y Ganolfan Dystiolaeth - Tystiolaeth i gael effaith i greu Cymru iachach
Tystiolaeth i gael effaith i greu Cymru iachach
Bydd Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynnal ei Symposiwm eilflwydd ar 19 Mawrth 2025, a bydd yn cael ei gyflwyno gan Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Bydd y Symposiwm yn amlygu effaith y Ganolfan Dystiolaeth a grwpiau ymchwil eraill yng Nghymru ac yn helpu’r rhai sy’n bresennol i ddatblygu cwestiynau ymchwil â ffocws gyda llwybr at effaith i’w cyflwyno i alwad nesaf am dystiolaeth y Ganolfan Dystiolaeth.
Bydd siaradwyr y cyfarfod llawn yn cynnwys:
- Yr Athro Liz Green |Yn Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol
- Iain Bell | Cyfarwyddwr Cenedlaethol ar gyfer Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Dr Helen Munro | Arweinydd Clinigol y Rhwydwaith Clinigol Strategol ar gyfer Iechyd Menywod, Gweithrediaeth y GIG
Bydd y Symposiwm yn sesiwn wyneb yn wyneb dros ddiwrnod llawn (10:00 – 15:00) yn yr Holiday Inn, Canol Dinas Caerdydd.