
Gweithdy ymarfer seiliedig ar gryfderau ar gyfer Unigolion Cyfrifol (RI)
Y nod yw creu sesiwn ryngweithiol ac egnïol lle gall RI ddod at ei gilydd, cysylltu â chyfoedion, rhannu profiadau, ac adeiladu ar arbenigedd presennol mewn amgylchedd cefnogol.
Yn ystod y gweithdy, gwahoddir aelodau i arsylwi a chymryd rhan fel rhan o dîm myfyriol, gan feddwl am eu cryfderau unigol eu hunain wrth ddyfnhau eu dealltwriaeth o arferion sy'n seiliedig ar gryfderau. Bydd lle ac amser i gydnabod natur amlochrog rôl yr RI a'r heriau a ddaw yn ei sgil.
Ein gobaith yw y bydd y gweithdy hyn yn arwain at sefydlu tîm myfyriol hybrid yn y gymuned, sy'n cynnwys RIs o bob rhan o Gymru a'r sector gofal cymdeithasol. Dros amser, credwn fod gan hyn y potensial i greu cyfleoedd tymor hir, cynaliadwy i fireinio sgiliau ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a chynnal diwylliannau emosiynol ddiogel a grymusol o fewn eich timau a'ch gwasanaethau eich hun.
Bydd y sesiwn'n cael eu hwyluso gan Jay Goulding gan ddefnyddio'r dull timau myfyriol. Gofynnir i RIs gyrraedd am 9:30am ar gyfer cofrestru a lluniaeth, gyda'r gweithdy'n dechrau am 10:00am.
Bydd cinio a rhwydweithio ar gael ar ôl y gweithdy.
I gael gwybod mwy e-bostiwch y Rheolwr Cymunedol RI, Mathew Morgan