Skip to Main content
Untitled design

Data 101: cyflwyniad i ddeall a defnyddio data (Sesiwn Cymraeg yn unig)

Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?

Cwrs cyflwyniadol, lefel uchel, yw hwn sy’n cael ei anelu at ddechreuwyr a’r sawl sydd ond yn dechrau defnyddio data. Mae’n fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddulliau a’i gynnwys. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddata nac ystadegau.

Beth fyddaf yn ei ddysgu?

Mae data yn sylfaenol i sut rydym ni’n gweithredu fel bodau dynol. Rydym ni’n defnyddio data bob dydd, llawer o weithiau y dydd, a hynny heb yn wybod i ni, yn fwy na thebyg. Data sy’n ein helpu i ddeall beth sy’n mynd ymlaen a beth sydd angen ei wneud.

Mae’n bwysig, felly, bod gennym ni’r data cywir a’n bod yn gallu ei ddeall a’i ddefnyddio’n effeithiol. Mae'r cwrs hyfforddiant yn cynnig arweiniad ymarferol i helpu i feithrin sgiliau a hyder wrth ddeall a defnyddio data. Bydd yn siarad am y gwahanol fathau o ddata a sut mae dod o hyd iddo. Bydd ni’n eich arwain trwy gyfres o gwestiynau sy’n bwriadu helpu i wneud yn siŵr eich bod chi’n deall y data rydych chi’n gweithio gydag ef. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan rai technegau i helpu i droi data yn wybodaeth.

Erbyn diwedd y cwrs byddwch chi’n deall:
- beth yw data a sut mae dod o hyd iddo
- y cwestiynau mae angen i chi eu gofyn i wneud yn siŵr eich bod chi’n deall data
- rhai technegau sylfaenol ar gyfer defnyddio data.

Tagiau sgiliau:

  • data