Skip to Main content

Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP)

Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o ddatblygu polisi ac ymarfer yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Rydyn ni'n rhoi dulliau stori a deialog ar waith i gasglu, archwilio a defnyddio gwahanol fathau o dystiolaeth.

Cefndir

Mae rhaglen DEEP wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor. Cafodd ei datblygu drwy brosiect Sefydliad Joseph Rowntree ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Rydyn ni wedi bod yn ariannu DEEP ers 2023.

Diffiniad DEEP o dystiolaeth

Mae diffiniad DEEP o dystiolaeth yn uno:

  • tystiolaeth ymchwil
  • doethineb a gwybodaeth ymarferwyr
  • gwybodaeth sefydliadol
  • doethineb a gwybodaeth pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth.

Mae dull DEEP yn annog mynd i'r afael â materion sy'n rhwystro defnyddio tystiolaeth yn ymarferol. Y nod yw meithrin dysgu a datblygiad sy’n cael eu harwain gan y bobl dan sylw, nid yn cael eu gorfodi arnyn nhw.

Ymgwedd DEEP

Mae ymagwedd DEEP yn dod â phobl at ei gilydd i feddwl a siarad am wahanol fathau o dystiolaeth.

Mae pum elfen i ymagwedd DEEP:

1. Creu amgylchedd maethlon o ofal a dysgu

Mae hyn yn golygu helpu pobl i greu mannau diogel, lle maen nhw'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu rhannu eu meddyliau a'u teimladau mewn perthynas â dysgu a datblygu.

2. Gwerthfawrogi a defnyddio ystod o dystiolaeth

Mae hyn yn golygu edrych ar wahanol fathau o dystiolaeth, gan gynnwys profiad bywyd, doethineb ymarferwyr, gwybodaeth sefydliadol, ac ymchwil.

3. Casglu a chyflwyno tystiolaeth mewn fformatau ystyrlon

Mae hyn yn golygu rhannu tystiolaeth mewn fformat sy'n ennyn diddordeb y galon a'r pen, gan ganolbwyntio ar adrodd stori.

4. Siarad a meddwl gyda'n gilydd yn effeithiol am fathau amrywiol o dystiolaeth

Defnyddio technegau dysgu deialog i gefnogi cyfleoedd cynhwysol i bobl archwilio gwahanol fathau o dystiolaeth o fewn cyd-destun ymarfer.

5. Adnabod a mynd i'r afael â rhwystrau neu rwystr strwythurol

Nodi ac archwilio sut i oresgyn materion systemig sy'n tanseilio'r defnydd o dystiolaeth yn ymarferol.
 

Gardd hyfryd

Mae mabwysiadu ymagwedd DEEP yn debyg i greu ardd hyfryd:

Rydyn ni'n paratoi'r tir i greu'r pridd iawn: mae hyn yn ymwneud â chreu'r amodau cywir ar gyfer defnyddio tystiolaeth.

Rydyn ni'n plannu amrywiaeth o hadau: mae hyn yn cyfateb i gasglu, gwerthuso a rhannu gwahanol fathau o dystiolaeth.

Rydyn ni'n tyfu'r hadau: mae hyn yn cyfleu sut yr ydyn ni'n cefnogi dysgu a datblygu drwy ddefnyddio deialog am dystiolaeth.

Mae'r fideo hwn yn helpu esbonio'r ymagwedd DEEP: 

Llawlyfr DEEP

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y dull DEEP yn ein llawlyfr DEEP:

Llawlyfr DEEP
PDF 2.598 MB

Mwy o wybodaeth

Dysgwch am ddulliau ac egwyddorion DEEP.

Chwiliwch am gyfleoedd dysgu DEEP.

Gallwch chi archebu lle ar ddigwyddiad, sesiwn dysgu neu gwrs DEEP ar ein tudalen digwyddiadau neu drwy dolen eventbrite DEEP.

Mae'r blogiau canlynol hefyd yn archwilio dulliau DEEP:

Cwrdd â'r tîm

Nick Andrews

Nick Andrews

Swyddog ymchwil a datblygu ymarfer (DEEP)

Rwy'n weithiwr cymdeithasol cofrestredig wedi fy lleoli ym Mhrifysgol Abertawe, lle rwy'n cydlynu'r rhaglen DEEP. Ffocws DEEP yw'r dull cydgynhyrchu o ddefnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu, gan gynnwys dulliau stori a deialog. Ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn ymarfer ac yn cynllunio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol, rwy'n gwneud cysylltiadau rhwng ymchwil, polisi ac ymarfer. Rwyf wedi datblygu rhwydwaith helaeth ledled Cymru a'r DU. Rwy'n teimlo'n angerddol dros symud o ymarfer sy'n cael ei yrru gan broses i ymarfer sy'n canolbwyntio ar berthynas.

Gill Toms

Gill Toms

Swyddog ymchwil a datblygu ymarfer (DEEP)

Mae gen i gefndir mewn seicoleg ac ymchwil. Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys dementia a seibiannau byr i ofalwyr di-dâl. Rwy'n gweithio ym Mhrifysgol Bangor ac wedi gweithio yn DEEP ers cwpl o flynyddoedd. Rwyf wedi mwynhau dysgu mwy am ofal cymdeithasol gan ymarferwyr a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol. 

Rwy'n teimlo'n ffodus i fod mewn rôl lle gallaf ddysgu cymaint gan eraill. Y tu allan i'r gwaith, rwy'n mwynhau cerdded mynyddoedd ac arfordir Gogledd Cymru a dysgu Cymraeg.