Skip to Main content
Untitled design

Deall a defnyddio data perfformiad

Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?

Cwrs cyflwyniadol, lefel uchel, yw hwn sy’n cael ei anelu at ddechreuwyr a’r sawl sydd ond yn dechrau defnyddio data. Mae’n fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddulliau a’i gynnwys. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddata nac ystadegau.

Beth fyddaf yn ei ddysgu?

Mae data perfformiad yn gadael i chi ddeall i ba raddau rydych yn bodloni amcanion eich sefydliad a ble mae angen i chi wella o bosibl. O’i ddeall a’i ddefnyddio’n effeithiol, mae’n gadael i chi wneud yn siŵr bod anghenion yn cael eu diwallu a bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio’n ddoeth.

Yn yr un modd ag unrhyw ddata, mae’n bwysig bod gennym ni’r data cywir a’n bod yn gallu ei ddeall a’i ddefnyddio’n effeithiol. Mae'r cwrs hyfforddiant yn cynnig arweiniad ymarferol i helpu i feithrin sgiliau a hyder wrth ddeall, herio a defnyddio data.

Erbyn diwedd y cwrs byddwch chi’n deall:
- beth yw data perfformiad a sut mae dod o hyd iddo
- beth mae angen i chi ei ystyried wrth weithio gyda data perfformiad
- sut i ddefnyddio data perfformiad.

Tagiau sgiliau:

  • data
  • ystadegau