Skip to Main content

Creadigrwydd a chyfranogiad mewn gwerthuso

Creadigrwydd a chyfranogiad mewn gwerthuso

Nick Andrews a Dr Sofia Vougioukalou

Mae 24 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Trwy gydol ein holl sesiynau rydym yn pwysleisio pwysigrwydd cyfranogiad ac ymgysylltiad effeithiol mewn gwerthuso. Fodd bynnag, bydd y sesiwn hon yn rhoi mwy o fanylion ynghylch pam mae cyfranogiad effeithiol mor bwysig, yn ogystal ag archwilio offer creadigol a chyfranogol y gallwch eu defnyddio i gynyddu ymgysylltiad a mesur effaith.

Bydd hyn yn cynnwys defnyddio adrodd straeon, delweddau a fideos ar gyfer gwerthuso yn ogystal â dulliau difyr megis eiliadau hud / trasig a’r newid mwyaf arwyddocaol.

Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch yn:

  • deall gwerth ymgysylltu effeithiol a chreadigrwydd wrth werthuso.
  • yn meddu ar amrywiaeth o offer i ymgymryd â dulliau gwerthuso creadigol a diddorol.
  • teimlo wedi'ch grymuso i ddatblygu eich arferion ymgysylltu eich hun a chreadigrwydd wrth werthuso

Archebwch le