
Cyflwyniad i werthuso economaidd
Cyflwyniad i Werthuso Economaidd
Emyr Williams a Dr Gill Toms gyda chyngor arbenigol gan Dr Michela Tinelli
Mae 24 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.
Mae gwerthuso economaidd yn dod yn fwy pwysig wrth i gyllidebau ddod yn dynnach ac wrth i'r galw gynyddu.
Fodd bynnag, mae gwerthuso economaidd ym maes gofal cymdeithasol yn gymhleth a gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau. Bydd y sesiwn hon felly yn rhoi trosolwg sylfaenol o werthuso economaidd gan archwilio'r egwyddorion cyffredinol i'w hystyried rhai o'r gwahanol ddulliau a ddefnyddir. Bydd hefyd amser penodol i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglŷn â gwerthuso economaidd i'n harbenigwr.
Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch yn:
- deall yr egwyddorion allweddol i'w hystyried wrth gynnal gwerthusiadau economaidd.
- Deall y gwahanol rolau y gallwch eu cymryd i gefnogi gwerthusiad economaidd.
- sylweddoli'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â chyfrifiadau gwerth am arian.
- teimlo'n fwy hyderus wrth ystyried gwerthuso economaidd yn eich gwaith.