Skip to Main content

DEEP: Newid mwyaf arwyddocaol

Arfer adfyfyriol a gwerthuso: newid mwyaf arwyddocaol

Mae 30 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Beth yw DEEP?

Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o gasglu, archwilio, a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dulliau stori a deialog.

Pwysigrwydd casglu ac archwilio straeon newid yn ystyrlon

Mae gwerthuso sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau wedi'i hyrwyddo ers tro, yn enwedig mewn gwasanaethau a rhaglenni sy'n canolbwyntio ar newid a gwelliant. Mae'r gwaith o gasglu tystiolaeth o ganlyniadau pobl wedi'i gynnwys yn Fframwaith Perfformiad a Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Fodd bynnag, gall fod yn heriol mesur a chasglu canlyniadau newid mewn ffyrdd ystyrlon. Mae cydnabyddiaeth gynyddol y gall straeon pobl fod yn ffordd bwerus o archwilio a dysgu o ganlyniadau newidiol pobl. Mae Newid Mwyaf Arwyddocaol (Davies a Dart, 2005) yn ddull o gasglu ac archwilio canlyniadau newid trwy straeon a ddatblygwyd yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd a datblygu cymunedol.

Y sesiwn hon

Bydd y sesiwn hanner diwrnod hon yn cyflwyno hanfodion y dull Newid Mwyaf Arwyddocaol. Bydd yn amlinellu egwyddorion ac arferion casglu straeon Newid Mwyaf Arwyddocaol ac yn manylu ar sut i archwilio a dysgu o’r straeon hyn mewn paneli dewis stori.

Pwy allai elwa o'r sesiwn?

Bydd y sesiwn o ddiddordeb i bobl sydd â rôl mewn gwerthuso, yn enwedig y rhai sy'n gweithio mewn gwasanaethau, cyrsiau neu raglenni sy'n canolbwyntio ar newid a/neu welliant. Bydd y sesiwn o fudd arbennig i bobl sy'n gweithredu Fframwaith Perfformiad a Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.

Rhagor o wybodaeth am y sesiwn.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am y sesiwn, cysylltwch â Nick Andrews ar: n.d.andrews@swansea.ac.uk

Archebwch le