Skip to Main content

DEEP: PERCCI

Gwerthuso gofal sy'n canolbwyntio ar y person: PERCCI

Mae 50 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu.

Beth yw DEEP?

Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o gasglu, archwilio, a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dulliau stori a deialog.

Yr her o ddangos gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae'r alwad i ddangos gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn berthnasol i wasanaethau. Fodd bynnag, nid yw’r hyn a olygwn wrth ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn bob amser yn glir ac mae heriau o ran deall sut mae’n edrych yn ymarferol.

PERCCI: arolwg sy'n seiliedig ar ymchwil ac wedi'i gyd-gynhyrchu
Datblygir PERCCI gan Mark Wilberforce, ymchwilydd ym Mhrifysgol Efrog. Trwy adolygiad o'r llenyddiaeth berthnasol, nododd y themâu sy'n sail i ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Yna archwiliodd y themâu hyn gyda phobl a gefnogir gan ofal cymdeithasol oedolion, a chyd-gynhyrchodd yr arolwg PERCCI 12 eitem. Mae'r arolwg yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio a mynediad.

Y sesiwn hon

Bydd y sesiwn awr hon yn cyflwyno pobl i PERCCI. Bydd yn archwilio themâu allweddol gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn darparu mwy o wybodaeth am sut y datblygwyd PERCCI ac yn trafod sut y gellir ei ddefnyddio’n ymarferol.

Pwy allai elwa o'r sesiwn?

Bydd y sesiwn o ddiddordeb i bobl sydd â diddordeb mewn sicrhau ansawdd a datblygu gwasanaethau. Mae hefyd yn berthnasol i hyfforddwyr sy'n addysgu pobl am ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gan y gellir defnyddio eitemau PERCCI fel pwyntiau siarad â dysgwyr.

Rhagor o wybodaeth am y sesiwn.

Os hoffech wybod mwy am y sesiwn, cysylltwch â Nick Andrews ar: n.d.andrews@swansea.ac.uk

Archebwch le