
Defnyddio stori newid i fesur effaith
Defnyddio stori newid i fesur effaith
Gan Emyr Williams
Mae 24 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.
Mae nodi’r newidiadau yr ydych am eu gwneud i fywydau pobl a chasglu’r dystiolaeth gywir i ddangos y cyfraniad yr ydych wedi’i wneud i’r newidiadau hynny yn bwysig iawn, ond hefyd yn anodd iawn. Bydd y sesiwn hon yn dangos sut y gellir defnyddio stori newid i wneud hynny, yn ogystal â rhoi trosolwg o'r offer a'r technegau y gellir eu defnyddio i fesur y newidiadau hynny.
Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch yn:
- deall gwerth defnyddio stori newid i gynllunio eich prosiectau a gwerthuso eu heffaith.
- mwy o ymwybyddiaeth o rai offer ymarferol i ddatblygu a mesur canlyniadau.
- meddu ar y wybodaeth i ddatblygu stori o newid ar gyfer eich prosiectau a'ch gwerthusiadau eich hun yn y dyfodol.
- deall sut y gall stori newid helpu i gomisiynu gwerthusiadau allanol.