Skip to Main content

Moeseg a gwerthuso

Moeseg a gwerthuso

Dr Gill Toms gyda chyngor arbenigol gan Dr Victoria Shepard.

Mae 24 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Mae moeseg yn rhan hanfodol o werthuso, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol. Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyflwyniad i egwyddorion moesegol allweddol a sut i'w gweithredu yn eich ymarfer gwerthuso. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth werthfawr ar geisio adolygiad moesegol allanol a byddwn yn darparu lle i chi drafod eich senarios moesegol eich hun gyda'n harbenigwr gwerthuso moesegol. Os ydych chi'n mynychu'r sesiwn, yna meddyliwch a oes mater moeseg penodol yr hoffech ei drafod cyn y sesiwn. Bydd amser yn ystod y sesiwn i drafod y rhain ac mae croeso i chi e-bostio manylion eich mater/cwestiwn er mwyn i ni allu paratoi.

Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch yn:

  • deall yr egwyddorion moesegol allweddol sy'n berthnasol wrth gynnal gwerthusiadau.
  • gwybod sut i gymhwyso'r egwyddorion moesegol hyn mewn gwerthusiadau.
  • teimlo'n fwy hyderus i fynd i'r afael â materion moesegol wrth gynnal gwerthusiadau.
  • byddwch yn ymwybodol o'r gwahanol ffynonellau cymorth ac arweiniad y gallwch eu cyrchu i helpu i fynd i'r afael â materion moesegol.

Archebwch le