Deall y cymhellion a'r rhwystrau i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol yng Nghymru
Yma, mae Dr Tom Slater, ein rheolwr Sicrhau Ansawdd Addysg yn rhannu canfyddiadau arolwg myfyrwyr ynghylch pam y dewison nhw yrfa mewn gwaith cymdeithasol.
Yn ystod hydref 2023-24, gofynnon ni i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol yng Nghymru gwblhau arolwg i’n helpu ni i ddeall eu hymwybyddiaeth o rôl gweithiwr cymdeithasol, y rhesymau dros ddewis astudio gwaith cymdeithasol ac unrhyw rwystrau maen nhw'n eu hwynebu. Cwblhaodd 106 o fyfyrwyr yr arolwg, gyda 72 ohonyn nhw'n israddedigion a 34 yn ôl-raddedigion.
Rhesymau dros astudio gwaith cymdeithasol
Mae canfyddiadau’r arolwg yn dangos bod 90 y cant o fyfyrwyr wedi dweud mai’r prif reswm pam eu bod nhw wedi dewis astudio gwaith cymdeithasol yw’r awydd i weithio gyda phobl a gwneud gwahaniaeth. Mae hyn yn amlygu natur anhunanol y rhai sy'n ymuno â'r proffesiwn gwaith cymdeithasol. Mae cymhellion eraill yn cynnwys dilyniant gyrfa (50 y cant) ac ennill sgiliau trosglwyddadwy (25.5 y cant). Yn ddiddorol, roedd cymhellion ariannol yn fân ffactor, gyda dim ond 11 y cant yn ei nodi fel cymhelliant.
Deall rôl gweithiwr cymdeithasol
Mae dealltwriaeth myfyrwyr o'r rôl gwaith cymdeithasol yn aml yn deillio o brofiadau uniongyrchol neu anuniongyrchol gyda gweithwyr cymdeithasol (37.7 y cant) ac argymhellion gan gyflogwyr neu reolwyr (16 y cant). Dim ond canran fach (5.7 y cant) oedd wedi dysgu am y rôl drwy ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd neu ymwybyddiaeth, sy’n dangos cyfle posibl ar gyfer gwella ymdrechion allgymorth.
Rhwystrau i astudio gwaith cymdeithasol
Cyllid ac amser i astudio yw'r rhwystrau mwyaf arwyddocaol i fyfyrwyr. Dywedodd 67.9 y cant fod cyllid yn rhwystr mawr, tra nododd 64.2 y cant yr her o gydbwyso astudio ag ymrwymiadau eraill. Teimlodd dim ond nifer fach o fyfyrwyr bod y broses o ymgeisio a mynediad i gyrsiau lleol yn rhwystrau, sy'n awgrymu bod y meysydd hyn yn cael eu rheoli'n gymharol dda.
Effaith cynyddu bwrsariaeth ôl-raddedig
Mae'r cynnydd mewn bwrsariaethau ôl-raddedig wedi cael effaith nodedig, gyda 53 y cant o fyfyrwyr ôl-raddedig yn nodi bod y fwrsariaeth uwch wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i astudio. Ar ben hynny, nododd 76.5 y cant na fydden nhw wedi gallu dechrau eu hastudiaethau heb y gefnogaeth ariannol uwch. Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd cymorth ariannol i alluogi myfyrwyr i ddilyn addysg gwaith cymdeithasol.
Effeithiolrwydd ymgyrch Gofalwn.Cymru
Mae ymgyrch gwaith cymdeithasol GofalGofal.Cymru wedi cael effaith gadarnhaol, gyda 34 y cant o fyfyrwyr yn ymwybodol o'r ymgyrch ac 88.9 y cant ohonyn nhw’n nodi fod yr ymgyrch yn dangos gwaith cymdeithasol mewn modd cadarnhaol. Mae hyn yn awgrymu, er bod yr ymgyrch yn effeithiol, mae lle i gynyddu ei gyrhaeddiad a'i ymwybyddiaeth ymhlith darpar fyfyrwyr.
Casgliad ac argymhellion
Mae'r arolwg yn tynnu sylw at yr angen am gefnogaeth ariannol barhaus ac ymgyrchoedd hyrwyddo effeithiol i ddenu a chadw myfyrwyr gwaith cymdeithasol. Mae'r prif argymhellion yn cynnwys:
- cymorth ariannol: Parhau i wneud yn siŵr bod darpar ymgeiswyr yn gwybod am y bwrsarïau myfyrwyr a’r cymorth ariannol sydd ar gael.
- ymdrechion hyrwyddo: Gweithio ar sicrhau bod darpar fyfyrwyr yn gwybod am ymgyrchoedd ymwybyddiaeth fel Gofalwn.Cymru i wella canfyddiad a dealltwriaeth y cyhoedd o'r proffesiwn gwaith cymdeithasol.
- cymorth i fyfyrwyr: Creu a rhannu opsiynau astudio mwy hyblyg a chefnogaeth gan gyflogwyr i helpu myfyrwyr i gydbwyso gwaith ac astudio a rheoli eu hamser.
Drwy barhau i weithio yn y meysydd hyn, byddwn yn darparu gwell cymorth i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol ac yn sicrhau gweithlu cymwys a phroffesiynol sy'n ymroddedig i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.