Skip to Main content
Adobe Stock

Dod â rhanddeiliaid ynghyd i gynllunio'r camau nesaf ar gyfer data gofal cymdeithasol

22 Hydref 2024

Yn y blog hwn, mae Jeni Meyrick, ein Harweinydd Llywodraethu Gwybodaeth, yn myfyrio ar weithdy diweddar lle daethon ni â rhanddeiliaid ynghyd i drafod y camau nesaf ar gyfer data gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Daethon ni â grŵp o randdeiliaid allweddol at ei gilydd yn ddiweddar ar gyfer gweithdy i geisio creu map ffordd ar gyfer cam nesaf y rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) a'r strategaeth ar gyfer data gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Gan ddefnyddio argymhellion yr Adroddiad cenedlaethol ar aeddfedrwydd data gofal cymdeithasol yng Nghymru fel ein man cychwyn, fe wnaethon ni trafod rhai o’r pethau hoffen ni gweithio tuag atynt. Yna, defnyddion ni'r canlyniadau dymunol hyn i ddechrau mapio’r camau nesaf tuag at eu cyflawni.

Roedd y gweithdy’n gynhyrchiol iawn, ac rydyn ni wedi cael llawer o adborth cadarnhaol gan y rhai a gymerodd rhan.

Grwp o bobl yn siarad efo'i gilydd.

"Alla i ddim cofio'r tro diwethaf i mi adael gweithdy diwrnod cyfan yn teimlo mor obeithiol. Aeth hyd yn oed yn well nag y gallwn fod wedi gobeithio a chawsom lawer o awgrymiadau i weithio arnynt." - Jeni Meyrick

Pam daethon ni â rhanddeiliaid at ei gilydd?

Un o’r rhesymau drefnon ni’r gweithdy oedd er mwyn dadlau’r achos dros roi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn atebion penodol i broblemau sy’n ein hatal rhag cyflawni ein huchelgais ar gyfer data iechyd a gofal cymdeithasol.  

Mae hyn yn cynnwys cael data i mewn i’r NDR (ac allan ohono yn y pen draw). Mae’r NDR yn blatfform data cenedlaethol a fydd yn cydgysylltu gwasanaethau data iechyd a gofal cymdeithasol o bob cwr o Gymru, gan sicrhau ei bod yn haws cael mynediad at y data a’i ddadansoddi mewn ffordd ddiogel a moesegol.

Gweithion ni gyda’r tîm NDR i gynllunio'r gweithdy, gyda’r bwriad o fwydo i mewn i gam nesaf y rhaglen.

Sut roedd y gweithdy’n gweithio?

Fe wnaethon ni gwahodd rhanddeiliaid sydd â golwg eang o dirwedd data iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i dynnu sylw at waith perthnasol a’n helpu i bennu ein blaenoriaethau.

Roedden ni eisiau sicrhau’r budd mwyaf o’r cyfle gwerthfawr i gael pawb yn yr un ystafell, ac osgoi senario lle’r oedd pobl yn gadael gan deimlo nad oedd llawer wedi’i gyflawni.

Dyna pam defnyddion ni methodoleg seiliedig ar ganlyniadau Swyddfa Technoleg ac Arloesi Llundain (LOTI), sy’n canolbwyntio ar y ffordd y mae data yn arwain at weithredu ac yn dechrau drwy ystyried canlyniadau.

Cafodd y dull gweithredu dderbyniad da gan randdeiliaid, a gallwch ddarganfod rhagor am y fethodoleg a dod o hyd i adnoddau defnyddiol ar wefan LOTI.

Symleiddion ni argymhellion yr adroddiad ar aeddfedrwydd data i ffurfio pum thema, a gofynnon ni i’r rhanddeiliaid ymuno â bwrdd yn canolbwyntio ar thema benodol. 

Yna, arweiniodd hwylusydd pob bwrdd y grwpiau drwy dri cham:

  1. Nodi’r canlyniadau hoffen ni eu cyflawni. Pa bobl benodol fyddai’n elwa, ac ym mha ffyrdd penodol, oherwydd ein bod wedi gweithredu? Yn yr achos hwn, gall fod yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yn cael data amser real i gynllunio ar gyfer darparu gofal cymdeithasol, neu’n weithiwr rheng flaen yn cael mynediad at yr holl ddata am yr unigolyn y mae’n ei gefnogi.
  2. Darganfod a diffinio’r rhwystrau sy’n ein hatal rhag cyflawni’r canlyniadau hyn. Er enghraifft, rhannu data ar Excel a dogfennau PDF yn hytrach na systemau sy’n gweithio gyda’i gilydd, neu weithwyr gofal ddim yn cael amser i gofnodi’r data oherwydd eu bod yno i ddarparu gofal, ac nid i ysgrifennu adroddiadau.
  3. Archwilio atebion i’r rhwystrau hynny er mwyn eu datblygu a’u rhoi ar waith

Yn bwysig iawn, mae’r awgrymiadau yng nghamau dau a thri wedi’u rhannu i ddau gategori – ‘technoleg a data’ neu ‘bobl a phrosesau’. Er ein bod yn tueddu i ganolbwyntio ar faterion ac atebion technoleg a data, mae’r dull gweithredu hwn yn dangos bod cymaint yn dibynnu ar bobl a phrosesau ymarferol.

Beth wnaeth y gweithdy ei gyflawni?

Alla i ddim cofio'r tro diwethaf i mi adael gweithdy diwrnod cyfan yn teimlo mor obeithiol. Aeth hyd yn oed yn well nag y gallwn fod wedi gobeithio a chawsom lawer o awgrymiadau i weithio arnynt.

Roedd y sgyrsiau ar bob bwrdd yn llifo’n naturiol drwy gydol y diwrnod. Roedd mwy o ddiddordeb yn rhai o’r themâu na’i gilydd, ond ymwelodd y rhan fwyaf o’r bobl â phob bwrdd. Roedd yr hwyluswyr yn dda iawn am nodi canlyniadau, diffinio’r problemau sy’n ein hatal rhag cyflawni’r rhain a throi’r problemau yn atebion. 

Roedd cael amrywiaeth o safbwyntiau ar bob bwrdd yn werthfawr iawn. Roedd penaethiaid gwasanaethau oedolion yn gallu chwalu camsyniadau ynglŷn â ble roedd yr heriau wrth geisio darparu gwasanaeth. Roedd comisiynwyr yn cefnogi darparwyr llai a oedd â modelau darparu gofal cymdeithasol hollol wahanol i awdurdod lleol mawr. Eglurodd arbenigwyr llywodraethu gwybodaeth a gwyddor data eu heriau wrth geisio sicrhau bod modd rhannu data’n gyflymach. A disgrifiodd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru pa dystiolaeth yr oedd angen arnyn nhw er mwyn mesur effaith.

Roedd yn wych gweld pawb yn rhannu eu syniadau.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Daeth llawer o negeseuon cyson i’r amlwg yn ystod y diwrnod:

  • Mae angen i ni gytuno ar safonau data gweithredol sylfaenol ar gyfer gofal cymdeithasol a darganfod ffordd o sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n gyson.
  • Nid oes llawer o bobl yn gwybod am y rhaglen NDR y tu allan i faes iechyd – mae angen i ni fod yn glir ynglŷn â’r ‘cynnig’ i ofal cymdeithasol a buddsoddi mewn gwaith i’w hyrwyddo.
  • Mae adnoddau ac amser pawb yn brin, felly mae siarad am ffyrdd arloesol o gasglu a rhannu data, a rhannu’r wybodaeth hon, yr un mor werthfawr â buddsoddi mewn technoleg.
  • Byddai cael cynrychiolaeth o faes gofal cymdeithasol ar rai byrddau rhaglenni allweddol yn gyfle gwych.
  • Mae FHIR yn ffordd dda o sicrhau bod modd rhannu data, ond mae angen i bobl wybod rhagor amdano.
  • Mae hyfforddiant ar ddata ar gael yn barod i arweinwyr a gweithwyr rheng flaen, ond mae angen iddyn nhw fod yn ymwybodol ohono a chael amser i fanteisio arno.
  • Mae mesur effaith gofal cymdeithasol gan ddefnyddio data yn wahanol i iechyd, ond mae storïau cadarnhaol i’w hadrodd â data gofal cymdeithasol os ydyn ni'n gofyn y cwestiynau iawn mewn cysylltiad â’r data rydyn ni'n eu casglu.
  • Nid casglu ystadegau yw gwaith staff rheng flaen, ond os gallwn ni wneud systemau a phrosesau yn symlach, bydd casglu data yn dod yn ail natur.

Y cam nesaf yw edrych ar yr hyn rydyn ni wedi ei ddysgu, ei gymharu ag argymhellion yr adroddiad aeddfedrwydd data a datblygu map ffordd ar gyfer ein gwaith.

Byddwn hefyd yn ailedrych ar ein strategaeth data gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau bod yr agweddau hynny sydd y tu allan i NDR yn cael eu hystyried hefyd.

Darganfod mwy

Os hoffech chi wybod mwy am ein gwaith data, e-bostiwch data@gofalcymdeithasol.cymru.