Skip to Main content

Safonau data FHIR a pham eu bod yn bwysig i ofal cymdeithasol

10 Gorffennaf 2024

Mae adroddiad ar aeddfedrwydd data timau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gwneud nifer o argymhellion ynghylch cymorth ar gyfer cydweddoldeb ‘FHIR’ yn y sector.

Mae FHIR, sy’n cael ei ynganu fel y gair ‘fire’, yn sefyll am Fast Healthcare Interoperability Resources. Mae’n fframwaith ar gyfer pennu sut mae gwahanol fathau o ddata yn cael eu disgrifio, er mwyn ei rannu rhwng systemau cyfrifiadurol.

Mae ei gwneud hi'n haws rhannu data rhwng gwahanol sefydliadau yn helpu i wneud gwasanaethau'n fwy effeithlon.

Yma, mae Owen Davies, ein Rheolwr Data a Gwybodaeth, yn esbonio beth yw FHIR, sut mae’n gweithio, a pham ei fod yn bwysig i ofal cymdeithasol.

Beth yw FHIR?

Mae FHIR yn ffordd systematig o ddisgrifio data mewn ffordd safonol neu gyson.

Mae llawer o systemau cyfrifiadurol gwahanol yn cael eu gwneud gan lawer o wahanol weithgynhyrchwyr ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol ac mae pob system yn storio ei data yn ei ffordd unigryw ei hun. Dyma sy'n ei gwneud mor anodd rhannu gwybodaeth gyda'n gilydd.

Nid yw FHIR yn ddarn o dechnoleg, mae'n fframwaith sy'n cynnwys rheolau ar gyfer sut rydyn ni'n disgrifio'r data hwn.

Mae FHIR hefyd yn hyblyg a gall addasu i wahanol achosion defnydd.

Mae wedi cael ei dewis fel y fframwaith rhyngweithredu iechyd a gofal ym mhob un o bedair gwlad y DU, a gan nifer o wledydd eraill ledled y byd.

Pam mae FHIR yn bwysig i ofal cymdeithasol?

Bydd FHIR yn caniatáu i ddata gael ei safoni mewn gofal cymdeithasol, sy'n ei gwneud yn haws i'w rannu, symud rhwng systemau a chynnal a chadw.

Cafodd safonau data eu nodi fel y brif flaenoriaeth yn y Dull strategol o ymdrin â data gofal cymdeithasol.

Bydd FHIR yn ein galluogi i gydymffurfio â gofynion yr Adnodd Data Cenedlaethol, gan ei gwneud yn haws i rannu data â chydweithwyr iechyd a’n gilydd.

Mae’n safon DU a rhyngwladol, felly mae’n debygol o gael ei gweithredu gan gyflenwyr systemau yn y dyfodol hefyd.

Sut mae'n gweithio?

Mae FHIR yn creu ffordd gyffredin o ddisgrifio’r rhan fwyaf o’r data sy'n cael ei ddefnyddio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'n gallu cael ei ddarllen gan beiriannau, ond gall defnyddwyr dynol hefyd gael mynediad ato a'i ddeall.

Mae FHIR yn caniatáu i systemau gysylltu â'i gilydd gan ddefnyddio rhywbeth o'r enw Ryngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau, neu API. Mae hyn yn ffordd o gael cyfrifiaduron i siarad â'i gilydd a chyfnewid data. Maen nhw'n gyffredin iawn, ac rydych chi'n eu defnyddio bob dydd heb wybod.

Mae FHIR yn cael ei rheoli fel prosiect ffynhonnell agored gan HL7, sefydliad dielw. Mae hyn yn golygu nad yw’n eiddo i gwmni sy’n edrych i wneud arian ohono – mae’n cael ei gadw’n gyfredol gan ei gymuned o ddefnyddwyr.

Mae’n caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd ac yn darparu ar gyfer systemau gwahanol, y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn disgrifio’r un data, ac yn caniatáu data sy’n benodol iawn i achos defnydd penodol. Mae'n gwneud hyn trwy ddefnyddio nodweddion fel proffiliau, estyniadau a ffasadau FHIR.

Beth yw proffiliau, estyniadau a ffasadau?

Mae proffil yn ffordd wahanol o ddisgrifio'r un data. Er enghraifft, mae defnyddiwr gwasanaeth, claf a pherson sydd angen gofal a chymorth i gyd yn ffyrdd o ddisgrifio unigolyn. Mae proffil yn newid y fanyleb ‘craidd’ drwy osod y rheolau ynghylch pa elfennau (meysydd data) sy’n cael eu defnyddio neu beidio, pa elfennau ychwanegol sy’n cael eu hychwanegu, a pha derminolegau a ddefnyddir. Mae proffiliau hefyd yn disgrifio sut y gallai'r rheolau newid ar gyfer achosion defnydd gwahanol, fel cael gwahanol bwyntiau cyswllt yn dibynnu ar y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu.

Mae estyniad yn ystyried yr holl elfennau eraill nad ydyn nhw'n rhan o'r proffil craidd sydd wedi'i disgrifio uchod. Mae'r elfennau hyn yn benodol i achos defnydd, felly nid ydyn nhw'n rhan o ofyniad cyffredin. Er enghraifft, gallai data treialon clinigol, neu asesiadau maethu, fod yn benodol i wasanaeth penodol ac nid data sy'n gallu cael ei rannu mewn gweithrediadau o ddydd i ddydd. Byddai'r rhain yn estyniadau i'r set ddata graidd.

Mae ffasâd FHIR yn ddarn o feddalwedd sy'n eistedd rhwng y cymhwysiad FHIR a chronfa ddata neu system gofal iechyd. Mae ffasâd FHIR yn gweithredu fel ‘cyfieithydd’, gan bwyntio’r gweinydd FHIR i’r cyfeiriad cywir i anfon neu adalw’r data cywir i, neu o’r, system yn y cefndir. Mae hefyd yn ymdrin â diogelwch rhwng y ddwy system, felly dim ond ceisiadau gan y rhai sydd wedi'u hawdurdodi i weld y data sy'n prosesu.

Beth yw ein cynlluniau?

Byddwn ni'n parhau i fod yn bartner ymroddedig gyda grŵp HL7 UK Core SC Four Nations – casgliad o gyflenwyr meddalwedd y llywodraeth, y GIG a masnachol sydd i gyd â diddordeb mewn datblygu FHIR ar gyfer gofal cymdeithasol yn y DU.

Byddwn ni'n comisiynu gwaith i’n helpu i ddechrau datblygu Safonau Data Gweithredol Isaf FHIR sy’n benodol i Gymru ar gyfer gofal cymdeithasol, gan ddefnyddio gwaith sydd eisoes wedi’i wneud yn Lloegr fel man cychwyn.

Byddwn ni hefyd yn ystyried argymhellion eraill yr adroddiad aeddfedrwydd data ac yn siarad â’n partneriaid am sut rydyn ni'n gweithio gyda’n gilydd i’w cyflawni.

Darganfod mwy

I gael rhagor o wybodaeth am safonau FHIR neu’r adroddiad aeddfedrwydd data, cysylltwch â data@gofalcymdeithasol.cymru.

Awdur y blog

Owen Davies

Owen Davies

Rheolwr Data a Gwybodaeth

Rwy’n arwain ar ddatblygu a gweithredu’r dull strategol o ymdrin â data gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu helpu pobl a sefydliadau sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru i fod yn well am gasglu, defnyddio a rhannu eu data. Rwyf hefyd yn rheoli tîm o weithwyr data proffesiynol yng Ngofal Cymdeithasol Cymru i gyflawni ein strategaeth ac i reoli data Gofal Cymdeithasol Cymru ei hun. Rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o fy ngyrfa yn gweithio mewn rolau data a digidol mewn gofal cymdeithasol. Gweithiais i awdurdod lleol am dros 20 mlynedd, gan ddod yn Rheolwr Perfformiad a Gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau plant. Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, bûm yn gweithio fel uwch arweinydd polisi yn Llywodraeth Cymru, gan weithio yn y tîm a ddatblygodd y Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rwy'n angerddol am ddefnyddioldeb a hygyrchedd data a digidol ac rwy'n gwneud gradd ymchwil mewn Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron ym Mhrifysgol Abertawe.